Yr iaith Gymraeg
Gan Wasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych hefyd mae'r casgliad mwyaf yng Ngogledd Cymru y tu allan i Brifysgol Bangor, o ffuglen, barddoniaeth, dramâu, darnau ar lenyddiaeth Cymru, cylchgronau, gwybodaeth fywgraffiadol a beirniadaethau llenyddol Cymraeg, ffynhonnell amhrisiadwy o ddeunyddiau i ddarllenwyr, myfyrwyr ac ymchwilwyr.
Casgliad Beiblau Cymraeg
Mae'r casgliad hwn, y mwyaf gyda mynediad cyhoeddus y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnwys mwy na 400 copi o amrywiol rifynnau o'r Beibl yn y Gymraeg, o ganol yr 17eg ganrif i ddechrau'r 21ain, ac mae'n cynnwys eitemau prin megis Testament Newydd William Salesbury a chyfieithiad 1588 William Morgan o'r Beibl cyfan. Cedwir y casgliad dan amodau amgylcheddol priodol yn Archifau Sir Ddinbych yng Ngharchar Rhuthun, ac mae ar gael i ddibenion ymchwil gan fyfyrwyr, haneswyr ac ymchwilwyr.


Rhoi adborth ar y tudalen hon