| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwaith Chwarae

Gwaith Chwarae

Egwyddorion Gwaith Chwarae
  1. Mae gan bob plentyn a pherson ifanc angen chwarae. Mae'r cymhelliad i chwarae yn reddfol. Mae chwarae yn rheidrwydd biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n syflaenol i ddatblygiad iach a lles unigolion a chymunedau.
  2. Mae chwarae yn broses a gaiff ei dewis yn rhydd, ei chyfeirio'n bersonal a'i chymell yn gynhenid. Hynny yw, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu a rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae drwy drwy ddilyn eu greddf, syniadau a diddorebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain am eu rhesymau eu hunain.
  3. Prif ffocws a hanfod gwaith chwaith chwarae yw cefnogi a hywluso'r broses chwaraea dylai hyn fod yn sail i ddatblygiad polisi chwarae, stategaeth, hyfforddiant ac addysg.
  4. Ar gyfer gweithwyr chwarae, mae'r broses chwarae yn cael blaenoriaeth ac mae gweithwyr chwarae yn gweithredu fell adfocatiaid dros chwarae wrth ymrwymo gydag agendâu a arweinir gan oedolion.
  5. Rôl gweithwyr chwarae yw cefnogi pob plentyn a person ifanc wrth greu gofod lle medrant chwarae.
  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i blant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac ymarfer adfyfyriol.
  7. Mae gweithwyr chwarae yn cydnabod eu heffaith eu hunain ar y gofod chwarae a hefy effaith chwarae plant a phobl ifanc ar weithwyr chwarae.
  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis arddull ymyriad sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae. Rhaid i bob ymyriad gan weithwyr chwarae gydbwyso risg gyda budd datblygiadol a lles plant.
Cynlluniau Chwarae Sir Ddinbych

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn ymwneud â SPICE (social, physical, intellectual, creative, emotional) sef datblygiad Plant a Phobl Ifanc. Cawn arian gan Cymorth i redeg cynlluniau chwarae adeg y gwyliau ysgol yn Ninbych Uchaf, Gallt Melyd, Bodelwyddan, gorllewin Y Rhyl a de orllewin Y Rhyl ac rydym yn datblygu cynlluniau eraill mewn partneriaeth hefo Cynghorau Tref a Chymuned ar draws y Sir.

Mae'r cynllun chwarae yn rhoi cyfle chwarae a nifer o weithgareddau diogel ac addas gan gynnwys celf a chrefft a gemau di gystadleuaeth i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 13 oed.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0