Yn unol â gofynion statudol, rhaid i’r AALl lunio polisi rhyddhad i gynorthwyo disgyblion cymwysedig gyda mynd ar ymweliadau preswyl ysgol / gweithgareddau sy’n gysylltiedig gyda’r cwricwlwm ac sy’n golygu cost bwyd a llety dros nos.
Mae Deddf Diwygio Addysg 1988, adran 106 (10) yn rhoi’r diffiniad canlynol ar gyfer ymweliadau / gweithgareddau o’r fath:
106 (10) Yn y Bennod hon mae ‘trip preswyl’ yn golygu unrhyw drip:
(a) a drefnir ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan neu ar ran y Corff Llywodraethol neu’r awdurdod addysg lleol; a
(b) sy’n golygu bod disgyblion sy’n chwarae rhan yn y gweithgaredd yn treulio un noson neu fwy i ffwrdd o’u llety dros nos arferol.
Gofynion cymhwyster y gweithgaredd:
Rhaid i’r ymweliad / gweithgaredd preswyl fod wedi ei ddiffinio yn glir o fewn Rhaglen Astudiaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol; maes llafur arholiad cyhoeddus penodol neu ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol fel elfen hanfodol sy’n ei gwneud yn angenrheidiol i holl ddisgyblion yn y dosbarth / grwp fynychu.
Rhaid i’r ymweliad neu’r gweithgaredd preswyl ddigwydd yn ystod yr wythnos ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
(Mae'n bosibl y bydd modd talu am rai teithiau ar y penwythnos drwy gronfa Thomas Howell, ond mae hyn yn ddibynnol ar faint o arian sydd ar gael yn y cyfrif.)
Gofynion cymhwyster Disgyblion, Rhieni / Gwarcheidwaid:
Rhaid i riant / warcheidwad cyfreithiol y disgybl fod yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn (Gwarantedig NID Cynilo,) Lwfans Ceisiwr Gwaith ( wedi'i seilio ar incwm) neu Gredyd Treth Plant (ond nid Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol llai
na £14,495, mewn perthynas â’r cyfnod pan fo’r ymweliad / gweithgaredd preswyl yn digwydd a rhaid cyflwyno tystiolaeth o Fudd-daliadau o’r fath os gofynnir am hynny gan yr AALl.
Taliadau i’w gwneud:
Bydd taliadau rhyddhad yn cael eu cyfyngu i ad-dalu union gost llety a bwyd a achosir gan ddisgyblion sy’n chwarae rhan mewn gweithgareddau preswyl a gymeradwywyd. Ni fydd costau ychwanegol megis cludiant, ffioedd mynediad, llogi offer ac ati yn cael eu had-dalu.
Os nad yw’r ymweliad / gweithgaredd yn bodloni gofynion polisi rhyddhad yr AALl, yna ni fedr yr AALl gynnig unrhyw gymorth tuag at y gost.
Trefniadau gwneud cais:
Ffurflen A Ffurflen Caniadtâd Cyffredinol: Bydd yr ysgol yn gofyn i holl rieni / gwarcheidwaid gwblhau Ffurflen A mewn perthynas â phob disgybl bob tro y maent yn cofrestru. Rhaid cadw copi ar ffeil mewn perthynas â phob disgybl.
Ffurflen B Ffurflen Hysbysiad Cychwynnol: Bydd hon yn cael ei chwblhau gan yr ysgol o leiaf chwe wythnos (neu cyn y telir unrhyw flaendal) cyn unrhyw ymweliad / gweithgaredd sy’n golygu bwyd a llety dros nos a bydd yn rhoi manylion rhagarweiniol dyddiadau a natur y digwyddiad / gweithgaredd preswyl arfaethedig a’r niferoedd tebygol a fydd yn chwarae rhan a all fod yn gymwys i dderbyn rhyddhad. Bydd hyn yn caniatáu i’r AALl ystyried unrhyw gais o’r fath mewn egwyddor ac os na fedr gynnig cefnogaeth bydd yn hysbysu’r ysgol yn unol â hynny. Yna medr yr ysgol benderfynu naill ai ariannu’r ymweliad / gweithgaredd preswyl ei hunan neu ganslo. Dylia hyn ganiatáu digon o amser i osgoi unrhyw daliadau cosb am ganslo os bydd yr ysgol yn penderfynu peidio â mynd ymlaen gyda’r gweithgaredd.
Os dymuna ysgolion fanteisio ar unrhyw gyfle a all godi oherwydd canslo neu os oes lle dros ben ar gael ar fyr-rybudd, rhaid iddynt gysylltu gyda’r Swyddog Cefnogaeth i Fyfyrwyr er mwyn cael cytundeb mewn egwyddor cyn gwneud unrhyw ymrwymiad cadarn. Yna dylid cwblhau’r gwaith papur gofynnol a’i gyflwyno cyn gynted ag y bo modd.
Ffurflen C Ffurflen Caniatâd a Hawlio a Ffurflen D Hawlio Ryddhad: Bydd y ffaith bod cytundeb wedi ei roddi mewn egwyddor ar sail Ffurflen B yn osgoi’r angen i ysgolion gyflwyno Ffurflenni C a D dair wythnos cyn y digwyddiad / gweithgaredd preswyl. Gellir nawr leihau’r cyfnod ymlaen llaw hwn i wythnos, a ddylai alluogi i ysgolion fodloni’r amserlen hon.
Ffurflen E: Ffurflen caniatâd meddygol, Rhieni / Gwarcheidwaid.
O dderbyn y dogfennau cais angenrheidiol a dilysiad cymhwyster, bydd y Swyddog Cefnogaeth i Fyfyrwyr yn awdurdodi ad-daliad i gronfa briodol yr ysgol.
Ni thelir unrhyw geisiadau ôl-weithredol a rhaid i ysgolion gydweithredu cyn belled ag y bo modd gyda’r AALl i fodloni’r amserlenni penodol er mwyn sicrhau talu rhyddhad yn brydlon.

Rhoi adborth ar y tudalen hon