| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Eich Syniadau

Mae’r dudalen hon yn rhoi mynediad i wybodaeth am yr ymgynghoriadau presennol gyda’r manylion ar ein gwefan.  Mae pob ymgynghoriad yng ngofal gwahanol adrannau o fewn y Cyngor. Pe byddech yn dymuno gwneud sylw ar unrhyw un o’r ymgynghoriadau, dilynwch y linciau perthnasol ac fe ddowch o hyd i’r manylion cyswllt perthnasol.  Rhestrir yr holl ymgynghoriadau presennol gyda chrynodeb byr isod.  I weld unrhyw ymgynghoriad sydd wedi cau, dilynwch y linc ar waelod y dudalen os gwelwch yn dda.

Dweud Eich Barn
Mae’ch barn chi’n bwysig i Gyngor Sir Ddinbych ac mae nifer o ffyrdd y gallwch fynegi eich barn.  Rydym yn awyddus i glywed beth yw eich barn am y gwasanaethau a ddarperir gennym a sut ydym yn eich cynrychioli.  Er mwyn cael dweud eich dweud am unrhyw un o’r ymgynghoriadau cyhoeddus yn eich ardal, cysylltu â’ch cynghorydd lleol neu roi adborth cyffredinol.

Fyddech chi’n hoffi darparu adborth ar Wasanaethau’r Cyngor?
Mae Cyngor Sir Ddinbych eisiau clywed barn preswylwyr ac ymwelwyr am y gwasanaethau a ddarperir.  Os yw’r sylwadau’n gadarnhaol neu’n negyddol, fe ymdrinnir â nhw'r un ffordd, yn effeithlon.  Rydym yn ymfalchïo bod gan y Cyngor system lle atebir unrhyw adborth o fewn 10 diwrnod gwaith.  I ganfod mwy o wybodaeth am beth sy'n digwydd i'ch adborth, edrychwch ar ein Polisi Adborth Cwsmer trwy ddilyn y linc yma.Bydd eich barn yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau yn y dyfodol. Cliciwch yma i ddarparu adborth ar wasanaethau’r cyngor os gwelwch yn dda.

Ymgynghoriadau Cyhoeddus
O bryd i’w gilydd rydym yn gwahodd y gymuned leol i roi barn ar gynlluniau, strategaethau a mentrau eraill y mae’r cyngor yn ymwneud â nhw.  Rhoddir sylw i unrhyw sylwadau a wneir yn y ffordd hon.
Mae’r dudalen ganlynol yn darparu mynediad i wybodaeth am ymgynghoriadau presennol a rhai sydd wedi eu cau.  Treuliwch ychydig o amser i edrych a chysylltu â ni trwy ddefnyddio’r dulliau a nodir ar bob tudalen ymgynghori.
Cliciwch yma i weld yr holl ymgynghoriadau os gwelwch yn dda.

Cysylltu â’ch Cynghorydd
Os ydych am gysylltu â’ch cynghorydd yn uniongyrchol, defnyddiwch y linc isod i ddod o hyd i’r manylion.  Defnyddiwch y ffurflen a ddarperir yma i ganfod y ffordd orau i gysylltu â’ch cynghorydd lleol os gwelwch yn dda.
I ganfod eich cynghorydd lleol, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Arolwg Gwefan
Rydym am wneud y wefan hon mor ddefnyddiol â phosibl ar gyfer pawb.  Hoffem dderbyn eich sylwadau er mwyn ein helpu i ddatblygu gwefan yn y dyfodol.  Treuliwch ychydig o amser i gwblhau’r arolwg byr am eich ymweliad heddiw os gwelwch yn dda.
Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr arolwg.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0