| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Casgliad Cerddoriaeth Printiedig
Bugsy Malone

Casgliad Cerddoriaeth Printiedig

Mae gan Wasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych gasgliad eang o gerddoriaeth printiedig i gerddorfeydd, grwpiau corawl ac unigolion gael eu benthyg. Maent yn amrywio o sgorau lleisiol o sioeau cerdd, oratoriau, cerddoriaeth cysegredig, sgorau opera a cherddoriaeth ar gyfer y Nadolig i ganeuon unigol a chasgliadau, teitlau offerynnol unigol, sgorau poced, libretos a setiau cerddorfaol.


Os nad yw teitl arbennig mewn stoc neu bod angen rhagor o gopiau, mae’n bosibl cael gafael arnynt drwy rwydwaith cyd-fenthyca cenedlaethol.

Costau Llogi
Copiau unigol i unigolion ar gyfer astudio – am ddim
Copiau lluosog ar gyfer cymdeithasau  - £1.00 y copi am 3 mis
Setiau Cerddorfaol- £10.00 y set am 3 mis.

I adnewyddu eitemau ar ôl y cyfnod benthyg o 3 mis, bydd y costau llogi uchod yn berthnasol.

Manylion Cyswllt
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma neu i drefnu apwyntiad i weld y casgliad, cysylltwch â:

Llyfrgell Rhuthun
Stryd y Llys
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1DS

Ffôn : 01824 705274
E bost : llyfrgell.cerdd@sirddinbych.gov.uk
Ffacs : 01824 702580

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0