| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Ymgynghoriadau wedi cau

Gellir gweld unrhyw ymgynghoriadau'r cyhoedd sydd wedi cau yma.  Byddwch yn ymwybodol fod y dogfennau yma nawr wedi cau a dydi hi ddim yn bosib rhoi adborth amdanynt.

Ymgynghoriad yn dechrau ar gyfuno dwy o ysgolion Dinbych

Mae Sir Ddinbych wedi lansio ymgynghoriad i ystyried cynigion i gyfuno Ysgol Gwaenynog (Babanod) ac Ysgol Heulfre (Plant Iau) yn Ninbych.

Bydd yr ymgynghoriad sy’n rhedeg tan Fehefin 24, yn ceisio barn rhieni, disgyblion, llywodraethwyr, staff a’r gymuned leol ar y cynnig i ddod â’r ddwy ysgol ynghyd yn ysgol sengl ar y safleoedd presennol o Fedi 1, 2012. Ar gau Mehefin 2011.

Y Drafodaeth Fawr

Mae hi’n galed y dyddiau hyn ac mae’n debyg o fynd hyd yn oed yn galetach dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ar draws y wlad, mae pob corff cyhoeddus yn ceisio gwneud ar lai o ystyried y toriadau yn y sector cyhoeddus sy’n dod i’n cyfeiriad – ac rydym ag eisiau gwybod eich barn.

Ymunwch â’r Drafodaeth Fawr a dywedwch wrthym beth ydych yn ei feddwl. Ble dylem fod yn ffrwyno gwariant neu wasanaethau yn eu hôl – neu ble dylem fod yn canolbwyntio ein hymdrechion i sicrhau bod preswylwyr yn cael y gwasanaeth y maent yn ei ddymuno? Ar gau Mawrth 2011.

Y Cynllun Adfywio Tai Gorllewin y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn adeiladu ar yr adroddiad a baratowyd gan yr ymgynghorwyr DPP Shape y llynedd ac a oedd yn rhoi argymhellion i newid bywydau’r rheiny sy’n byw yng Ngorllewin y Rhyl a’r tu hwnt er gwell.Fe gynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori mewn gwahanol safleoedd yn y Rhyl ac roedd cannoedd o bobl leol yn gysylltiedig â siapio’r awgrymiadau ar gyfer yr hyn ddylai ddigwydd nesaf. Ar gau Mawrth 2011.

Canllawiau Cynllunio Atodol Safonau Gofod Preswyl Drafft.

Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Safonau Gofod Preswyl. Prif rôl y ddogfen yw darparu canllawiau ar y safonau y mae’r Cyngor yn disgwyl iddynt gael eu cwrdd mewn datblygiad preswyl, yn cynnwys safonau gofod mewnol gofynnol, gofod awyr agored preifat a chydymffurfiaeth â Chartrefi Gydol Oes. Unwaith y mae’r canllawiau wedi’u cymeradwyo gan y Cyngor byddant yn cael eu defnyddio wrth drin a phenderfynu ceisiadau cynllunio. Ar gau Chwefor 2011.

Rhowch eich barn ar newidiadau arfaethedig Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ar gyfer Sir Ddinbych

Mae’r cynigion drafft, sy’n edrych ar newid darpariaeth gyfredol ffiniau etholaethol ar draws y sir, ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus ym mhob llyfrgell yn y sir ac fe anogir preswylwyr i roi eu barn yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus sy’n rhedeg tan Ragfyr 22, 2009. Ar gau Ragfyr 22, 2009.

Strategaeth Gymunedol

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn i bob sir yng Nghymru adolygu eu Strategaeth Gymunedol i ystyried y newidiadau sy'n digwydd o ganlyniad i weithredu Mesur Llywodraeth Leol (Cymru). Ar gau Ragfyr, 2009.

Cynllun Datblygu Lleol Adneuol

Mae’r Cyngor yn ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuol rhwng y 5ed o Hydref a’r 30ain o Dachwedd. Rydym eisiau eich barn!
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn allweddol i ddarparu tir ar gyfer cartrefi newydd; tir ar gyfer swyddi, mannau agored, cyfleusterau cymunedol ac yn helpu i ddiogelu’r pethau hynny sy’n gwneud ein Sir yn unigryw: ein hamgylchedd, bywyd gwyllt, tirwedd a threftadaeth adeiledig. Ymgynghorodd y Cyngor ar gam cyntaf y Cynllun Datblygu Lleol, y cam Cyn-Adneuol, ym Mehefin-Awst 2008. Ar gau Tachwedd 2009.

Ymgynghoriad ynglŷn â chynigion i gau Ysgol Llantysilio

Ar Orffennaf 14 cytunodd Cabinet y Cyngor i ymgynghori ar gynigion i gau Ysgol Llantysilio o Awst 31, 2010. Bydd y cyfnod ymgynghori’n rhedeg o Fedi 7 tan Hydref 7, 2009. Fe anfonwyd Dogfen Ymgynghori sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth ar y cynigion, ynghyd â ffurflen adborth ar gyfer sylwadau, at rieni a gwarcheidwaid, staff a llywodraethwyr yr ysgol. Fe gynhelir cyfarfod cyhoeddus hefyd yn yr ysgol a hynny ar ddydd Mawrth Medi 15 am 5pm. Ar gau Hydref 2009.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych – asesiad a chynllun drafft

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych wedi cwblhau eu hail asesiad strategol. Mae'r asesiad strategol yn cynnwys gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru. Mae gofyn ymgynghori hefo’r gymuned ar y materion hyn i sicrhau bod y blaenoriaethau’n adlewyrchu cymunedau Sir Ddinbych. Ar gau Mawrh 2009.

Strategaeth Cartrefi Gwag Drafft
Mae'r ddogfen hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer dod â chartrefi gwag y Sir yn ôl i gyflwr lle gellir eu defnyddio, dros y tair blynedd nesaf. Mae'n amlinellu agwedd ragweithiol, gydgysylltiedig tuag at ddelio â phroblem cartrefi gwag gyda'n partneriaid Cymdeithas Tai Gogledd Cymru. Ar gau, Mawrh 2009.

Cynlluniau addysg - helpwch i wneud gwahaniaeth

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i foderneiddio addysg yn y Sir fel y gall plant a phobl ifanc gael addysg o’r radd flaenaf. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael adeiladau modern sy’n ffit i’r pwrpas ac sy’n cyfarfod ag anghenion addysg y byd modern. Mae angen i ysgolion allu darparu’r profiad dysgu gorau posib, i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau sydd ar gael iddyn nhw a’u bod yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.
Mae’r cyngor wedi dyfeisio 10 o bolisïau newydd a fydd yn cael eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer y fframwaith Moderneiddio Addysg. Mae’r polisïau hyn yn dal ar ffurf drafft ac rydym yn awyddus i gael eich barn. Ar gau Ionawr 12sed.

 

Cymuned Diogelwch - Gatiau Alley 

Rydym yn ystyried gosod mwy o gatiau ali yn Sir Ddinbych. Y broses yw bod pobl leol neu Aelodau Etholedig yn gofyn am gael gatiau i ymateb i broblemau yn eu Cymuned. Rydym wedi arolygu'r ardal a phenderfynwyd y gallai gatiau ali fod o gymorth. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gadael i chi, y gymuned, wybod beth sy'n cael ei ystyried gan ganiatáu i chi wneud sylwadau. Ar gau Rhagfyr 7, 2008.

Flaenoriaethau Cyngor Sir Ddinbych
Os ydym i wneud newidiadau gwirioneddol mae angen i ni wneud llai o bethau, ond eu gwneud yn dda.  Mae Cynghorau sydd â ffocws cynaliadwy ar yr hyn sy’n cyfri yn fwy tebygol o wella na’r rhai sy’n gosod blaenoriaethau ac yna’n methu cadw ar y llwybr drwy’r newidiadau.  Blaenoriaethu yw’r ffordd y bydd cynghorau’n penderfynu lle i ganolbwyntio eu hadnoddau prin, yn cynnwys amser rheoli ac ymdrech.  Mae’r gwaith dyddiol o gyfarfod â dyletswyddau statudol y cyngor yn parhau, ond mae blaenoriaethau cyngor yn pwyntio tuag at y meysydd allweddol y mae’r cyngor am eu newid.  Ar gau Medi 15, 2008.

Mae cynllun hawliau tramwy Sir Ddinbych ar gael yn awr ar wefan y Cyngor fel dogfen ymgynghorol.

Mae'r ddogfen hon yn gosod allan sut fydd y Cyngor Sir yn rheoli ac yn gwella rhwydwaith a mynediad i gefn gwlad dros y deng mlynedd nesaf, a sut y bydd yn cynorthwyo i wella'r economi wledig a dod ag iechyd, mwy o wybodaeth amgylcheddol a bod yn ffynhonnell o fwynhad i'r cyhoedd.  Ar gau - 31 Awst 2008.

Cynllun Datblygu Cyn-adneuo

Bydd ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol Cyn-adneuo (gan gynnwys y Strategaeth a Ffefrir) yn cychwyn ar 2il Mehefin 2008 ac yn dod i ben am 5pm ar 1af Awst 2008.  Bydd hyn yn pennu lefel twf cyffredinol ar gyfer y Sir hyd at 2021, ac yn rhoi syniad o ble bydd y twf newydd yn debygol o gael ei leoli.
Am wybodaeth pellach cliciwch ar y cyswllt yma

Cefnogi Gofalwyr yn Sir Ddinbych - Strategaeth ddraft ar gyfer gwelliant

Daeth yr ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft ar Gefnogi Gofalwyr i ben ar Fehefin 30 2008. Dilynwch y linc hwn i'r dudalen cywir, mae'r strategaeth ar gael ar waelod y dudalen.

Cadarnhad o is Ddeddfau

Rhoddir rhybudd bod Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu, ar ôl i'r cyfnod a nodir isod ddod i ben, wneud cais at yr Ysgrifennydd Gwladol am gadarnhau'r is-ddeddfau a wnaed gan y Cyngor mewn cyswllt a Chyflogi Plant.

Holiadur Ailgylchu

Gyda diwedd y contract ailgylchu ar ddod a thargedau newydd gan Gynulliad Cymru, mae gennym gyfle i newid ein ffordd o ailgylchu.
Mae'r Cyngor Sir yn cydnabod y bydd pob preswylydd angen gwasanaeth ailgylchu. Er bod costau am ddarparu casgliad ychwanegol, bydd cost peidio ailgylchu (e.e. costau uchel casglu gwastraff a chosb am fynd dros y cyfyngiad tirlenwi) hyd yn oed yn fwy.Ar gau.

Angen barn ar addysg ôl 16 yn Y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio ymgynghoriad swyddogol ar gynlluniau i ad-drefnu addysg ôl 16 yn y Rhyl.

Cyfle i ymateb i adroddiad newydd ar chwareli

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi cael eu annog i ymateb i adroddiad ar ddyfodol y darpariaeth o bob math o gerrig a thywod wedi ei gloddio ar draws gogledd Cymru tan y flwyddyn 2021. 

Asesiad Strategol O Drosedd Ac Anrhefn Yn Sir Ddinbych

Rydym wedi cwblhau Asesiad Strategol o Drosedd ac Anrhefn yn Sir Ddinbych ac rydym nawr am rannu ein canlyniadau.  Rydym wedi drafftio nifer o flaenoriaethau ac rydym wedi ymgynghori arnynt.

Eich Arian, Eich Llais - Holiadur Am y Sioe Ffordd Cyllideb

Ar gau - Chwefror 5, 2008.

Moderneiddio Addysg

Mae Cyngor Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ei raglen Moderneiddio Addysg, sydd yn edrych ar y modd y dylai addysg gael ei datblygu i gwrdd ag anghenion system addysg fodern yr 21 Ganrif. Y Dyddiad cau am yr ymgynghoriad oedd Rhagfyr 14
 

Ymghynhoriad  Cyhoeddus - Cymuned Diogelwch - Gatiau Alley
Rydym yn ystyried gosod mwy o gatiau ali yn Sir Ddinbych. Y broses yw bod pobl leol neu Aelodau Etholedig yn gofyn am gael gatiau i ymateb i broblemau yn eu Cymuned. Rydym wedi arolygu'r ardal a phenderfynwyd y gallai gatiau ali fod o gymorth. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gadael i chi, y gymuned, wybod beth sy'n cael ei ystyried gan ganiatáu i chi wneud sylwadau. Y Dyddiad cau am yr ymgynghoriad oedd Rhagfyr 21ed.

Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy a Chynllun Gweithredu Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd

Mae yr archwiliad wedi bod ar gael i ymgynghori. Ar gau - Tachwedd 28, 2007.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych