| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cyd Gofrestr Anabledd Conwy a Sir Ddinbych

Cofrestr ar gyfer Plant neu Bobl Ifanc gyda Salwch neu Anabledd Cronig

 

Beth yw'r Gofrestr?

Caiff y Gofrestr ei chreu a'i chynnal a'i chadw fel prosiect ar y cyd rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Iechyd, Mudiadau Gwirfoddol a rhieni/gofalwyr plant a phobl ifanc anabl (0-19) a chanddynt salwch cronig neu anabledd er mwyn galluogi cynllunio a chydlynu gwasanaethau.

Buddion cofrestru

  • Cylchlythyrau rheolaidd - yn rhoi gwybodaeth gyfoes am faterion yn ymwneud ag anabledd.
  • Cyfeirlyfr o Wasanaethau - canllaw cynhwysfawr i wasanaethau yn eich sir.
  • Grŵp Partneriaeth Teulu - (grŵp rhieni) rhoi llais i chi yn y gwasanaeth a ddarperir.
  • Fy Llyfr Oren - cofnod a gedwir gan y teulu, sy'n arbed i chi orfod ailadrodd hanes eich plentyn, ac sy'n hysbysu darparwyr gofal yn yr ysgol ac mewn lleoliad seibiant o anghenion a hoffterau cyfredol eich plentyn.

Pwy sy'n gweld y Gofrestr?

Cedwir y gofrestr ar gyfrifiadur gan Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych. Dim ond Cydlynydd y Gofrestr a'r gweithwyr proffesiynol hynny o'r Gwasanaethau Iechyd, Addysg a Chymdeithasol sy'n gweithio gyda'r plentyn neu'r person ifanc sy'n cael gweld gwybodaeth unigolion; fel arall, mae'r wybodaeth yn gyfrinachol ac ni chaiff ei rhoi i unrhyw un arall. Caiff gwybodaeth gyffredinol, megis nifer y plant neu'r bobl ifanc ar y gofrestr (ond nid eu henwau a'u cyfeiriadau a manylion personol eraill), ei gweld gan y Grŵp Cynllunio ar y Cyd ar gyfer plant ag anghenion iechyd ac anableddau, a gellir ei chynnwys yng Nghynllun Gwasanaethau Plant yr awdurdodau lleol.

 

Sut ydw i'n newid manylion neu'n eu tynnu oddi ar y Gofrestr?

Cewch ofyn am gael gweld y wybodaeth am eich plentyn unrhyw adeg, a newid unrhyw fanylion sy'n anghywir. Cewch hefyd ofyn i fanylion eich plentyn gael eu tynnu oddi ar y gofrestr unrhyw bryd.

 

Fy Llyfr Oren

Mae rhieni yn aml yn gweld eu hunain yn ailadrodd hanes meddygol eu plentyn wrth nifer o wahanol weithwyr proffesiynol. Mae'r Llyfr Oren yn darparu cofnod cyfleusa gaiff ei lenwi gan y teulu, sy'n rhoi crynodeb byr o'r holl wybodaeth angenrheidiol.

Y nod yw y bydd y plentyn yn cario'r llyfr gyda nhw i'r ysgol, i ofal seibiant/rhannu gofal a'r ysbyty, er mwyn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y plentyn.

 

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gofrestr neu am 'Fy Llyfr Oren', gallwch siarad â Nyrs Arbenigol, Pediatregydd, Gweithiwr Cymdeithasol, Nyrs Ysgol neu Swyddog Datganiadau Addysg eich plentyn, neu fel arall, cysylltwch â Chydlynydd y Gofrestr Anabledd:

 

Cydlynydd y Gofrestr Anabledd

Cyfle, Barnardo's Cymru

Swyddfa llawr 1af

Neuadd Panton

Dinbych

Sir Ddinbych

LL16 3TL

Ffôn: 01745 817216

Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych