Yn dilyn yr achosion o derfysgaeth yn Llundain a Glasgow yn ddiweddar, mae’r lefel y bygythiad yn y DU yn awr wedi newid i DIFRIFOL. Mae hyn yn golygu bod ymosodiad terfysgol yn debygol iawn. Mae’n bosibl y caiff lefel y bygythiad yn y DU ei hailasesu unrhyw adeg.
Mae ymchwiliad gwrthderfysgol eang ar y gweill ar draws y DU. Roedd posibilrwydd i’r dyfeisiadau a ddefnyddiwyd greu difrod sylweddol i eiddo, a lladd nifer fawr o bobl.
Does dim gwybodaeth i awgrymu bod unrhyw ran o’r DU yn darged penodol ond mae’n amlwg bod ymosodiad arall yn bosibl iawn. Mae’r heddlu’n cymryd camau i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel. Dyma’n prif flaenoriaeth.
Bydd Heddluoedd o bob rhan o’r wlad yn patrolio’n amlach yn yr ardaloedd hynny a allai gael eu targedu. Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl yn dod ynghyd er mwyn gofalu eu bod yn ddiogel.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i gydweithio â’r heddlu, partneriaid a chymunedau eraill yn lleol, yn y sir, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i atal terfysgaeth.
Er nad oes unrhyw reswm i bryderu ar hyn o bryd, mae angen i’n cymunedau i gyd fod yn wyliadwrus ac i roi gwybodaeth am unrhyw ymddygiad amheus fel a ganlyn:
Llinell Frys Gwrthderfysgaeth 0800 789321
Heddlu Gogledd Cymru 0845 6071001 (llinell Gymraeg)
0845 6071002 (llinell Saesneg)
Crimestoppers 0800 55511
Cewch ragor o wybodaeth drwy ddilyn y dolenni a ganlyn:-
Heddlu Gogledd Cymru http://www.north-wales.police.uk
Y Swyddfa Gartref http://www.homeoffice.gov.uk/
UK Resilience http://www.ukresilience.info/


Rhoi adborth ar y tudalen hon