Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn arwain ac yn cydlynu gwaith ar faterion gwerthiannau dan oed. Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a gwahanol grwpiau gofal cymuned i daclo’r pwnc pellgyrhaeddol yma.
Atal Gwerthiannau Dan Oed
Sut y gallaf fod yn siŵr o oed prynwr?
Gall fod yn anodd iawn asesu oed person oddi wrth eu hedrychiad. Dyma pam y dylech ofyn bob amser am dystiolaeth o’u hoed mewn achosion lle nad oes unrhyw amheuaeth am oed y prynwr. Mathau derbyniol o dystiolaeth fyddai pasbort neu drwydded yrru ffoton newydd. Ni ddylid dibynnu ar ddogfennau fel tystysgrifau geni neu gardiau Yswiriant Cenedlaethol, gan nad ydynt yn cynnwys ffotograff o’r daliwr.Mae nifer o gynlluniau prawf o oed yn bod lle y gall pobl ifanc gael cerdyn sy’n cynnwys eu ffotograff, a’r dyddiadau y daethant yn 16 ac 18. Mae cynlluniau achrededig PASS (Cynllun Cenedlaethol Safon Prawf Oed - cliciwch ar y linc allanol) wedi eu harchwilio’n drwyadl i sicrhau bod y cardiau a ddyroddir yn fanwl gywir. Maent hefyd yn cynnwys logo holograffig PASS sy’n eu gwneud yn anodd iawn eu copïo.
Os bydd amheuaeth yn parhau am oed y prynwr, mae’n rhaid gwrthod gwerthu.
Oni fydd cwsmeriaid yn cael eu cythruddo os byddaf yn gwrthod eu serfio?
Cofiwch bob amser nad oes raid i chi werthu dim i neb os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Efallai yr hoffech wneud copi o’r ‘Rhybudd Gwrthodiad’ a ddarperir a’i roi mewn lle amlwg yn eich siop, neu wneud copïau o’r ‘Slip Gwrthodiad’ i’w roi i’r bobl ifanc y byddwch yn eu gwrthod. Refused.Beth allaf i ei wneud i rwystro’r rhai sydd ynghlwm â’m busnes i rag torri’r gyfraith?
Mae’r gyfraith yn gyffredinol yn darparu’r masnachwr ag amddiffyniad os gall ddangos ei fod ef/ei bod hi wedi cymryd pob rhagofal rhesymol a diwydrwydd dyledus i atal cyflawni trosedd.Mae ‘rhagofalon rhesymol’ yn golygu sefydlu system addas ac mae ‘diwydrwydd dyledus’ yn golygu sicrhau fod y system yn gweithio’n effeithiol. Cofiwch fod yr amddiffyniad ar gael dim ond os byddwch wedi cymryd pob rhagofalon rhesymol ac wedi ymarfer diwydrwydd dyledus llwyr, er hynny, bydd yr hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar faint a natur y busnes. Fe ddisgwylid i fasnachwr lluosog mawr fod â system llawer mwy soffistigedig na siop cornel fechan.
Beth allai fod yn ddisgwyliedig ohonof i?
Elfennau hanfodol system i atal gwerthiannau dan oed yw’r canlynol :-
• Hyfforddiant staff
• Rhybuddion
• Anogwyr til
• Cofnodion o achlysuron pan ofynnwyd am Brawf Oed
• Monitro a rheolaeth gan reolwr neu berchennog y busnes
Cofiwch, fodd bynnag, mai ond y llysoedd yn y pen draw all benderfynu beth sy’n rhesymol, gan ystyried yr holl amgylchiadau.


Rhoi adborth ar y tudalen hon