| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Safonau Bwyd

Marciau Dyddiad

Mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o fwydydd sydd wedi eu pecynnu (rhai sydd wedi eu pecynnu ymlaen llaw cyn eu gwerthu) fod â dyddiad wedi ei farcio arnynt gydag awgrym o hyd byrraf gwydnwch y bwyd.
Mae yna dri math o farciau dyddiad a nodir yn y ddeddfwriaeth o ran bwyd wedi ei becynnu.  Mae’r rhain fel a ganlyn:

I’w Ddefnyddio Erbyn - Dylai hyn fod yn gymwys i fwyd sydd, o safbwynt microbiolegol, fod yn hynod ddarfodus ac sydd felly’n debygol, wedi cyfnod byr, o fod yn berygl union i iechyd dynol, e.e. cig ffres, pysgod, dofednod, cig wedi ei goginio, pate, cynnyrch llaeth, prydau parod, salad a chaws meddal.  Mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu marcio â ‘diwrnod’ a ‘mis’, e.e. Defnyddiwch erbyn Ionawr 28.

Ar Ei Orau Cyn – Dylai hyn fod yn gymwys i fwydydd y bwriedir iddynt fod â bywyd silff o dri mis neu lai, e.e. bara, caws caled.  Mae’n ofynnol iddynt gael eu marcio â ‘diwrnod’ a ‘mis’ e.e. Ar ei orau cyn 04 Mawrth.

Gall 'Ar ei orau cyn’ hefyd gael ei gymhwyso i fwydydd sydd â bywyd silff rhwng tri a deunaw mis, cyn belled â’i fod wedi ei farcio  ‘diwrnod’ a ‘mis’ a ‘ blwyddyn’, e.e. Ar ei orau cyn Mehefin 22 2006.

Gall y bwydydd hyn hefyd gael eu marcio ag ‘ar ei orau cyn diwedd’ – gweler isod.

Ar Ei Orau Cyn Diwedd – Dylid cymhwyso hyn i fwydydd a fwriedir i fod â bywyd silff dros dri mis, e.e. bwydydd rhewedig a bwydydd tun.  Mae’n ofynnol iddynt fod wedi eu marcio â ‘mis’ a ‘blwyddyn’, e.e. Ar ei orau cyn diwedd Mai 2005.

Ar y llaw arall gall y dangosydd i nwyddau sydd â bywyd silff o dros ddeunaw mis, fod ar ffurf blwyddyn yn unig, e.e. Ar ei Orau Cyn Diwedd 2007. Hefyd mae’n rhaid marcio’r amodau storio er mwyn i’r bwyd gadw tan y dyddiad a ddangosir.

Amodau Gwerthu

Ni ddylid gwerthu nac arddangos bwydydd sydd wedi eu marcio â dyddiad ‘I’w ddefnyddio erbyn’ ar ôl y dyddiadau a farciwyd.  Mae’n drosedd i werthu neu gynnig gwerthu bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad y dylid ei ddefnyddio.  Er enghraifft, mae i’w ddefnyddio erbyn Mawrth 5 yn golygu i’w ddefnyddio erbyn hanner nôs ar Fawrth 5.
Gellir gwerthu bwydydd sydd wedi eu marcio â dyddiadau 'ar ei orau cyn' neu 'ar ei orau cyn diwedd’best before end' ar ôl y dyddiadau a farciwyd, cyn belled â’u bod yn dal o ansawdd da ac yn ffit i bobl eu bwyta.  Yn yr amgylchiadau hyn awgrymir y dylid sicrhau fod y cwsmeriaid yn gwybod fod y dyddiad wedi mynd heibio cyn iddynt benderfynu prynu.  Os bydd ‘problem’ wedi ei darganfod gyda bwyd wedi ei becynnu sydd wedi mynd heibio’r dyddiad a farciwyd, cyfrifoldeb y gwerthwr yw hyn fel arfer.
 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0