Cyflwyniad
Daeth Deddf Gamblo 2005 i rym ar 01 Medi 2007. Mae'r Ddeddf yn diddymu deddf Betio, Gemio a Loterļau 1963, Deddf Gemio 1968 a Deddf Loterļau a Diddanu 1976.
Mae'r ddeddf yn cynnwys dau brif weithgaredd :
• Darparu cyfleusterau gamblo
• Defnyddio adeiladau ar gyfer gamblo
Mae gan y Ddeddf dri amcan trwyddedu statudol i'r ddeddfwriaeth sef :
• Atal gamblo rhag bod yn sail i drosedd ac anrhefn, cysylltiedig ā throsedd neu anrhefn neu ei ddefnyddio i gynnal trosedd .
• Sicrhau bod gamblo yn digwydd mewn ffordd deg ac agored .
• Diogelu plant a phobl fregus eraill rhag niwed neu eu defnyddio trwy gamblo.
Mae'r Ddeddf yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am roi caniatād gemio a gamblo oddi wrth yr Ynadon Trwyddedu gan roi pwerau newydd i Awdurdodau Trwyddedu ar drwyddedu a rheoleiddio'r defnydd o adeiladu gamblo .
Cefndir
Ar 1 Medi 2007 cymerodd Cyngor Sir Ddinbych gyfrifoldeb am roi trwydded i eiddo sy'n darparu cyfleusterau gamblo neu eiddo a ddefnyddir ar gyfer gamblo gan gynnwys;
• Siopau betio
• casinos
• canolfannau gemio i oedolion a
• canolfan adloniant teuluol (a bu yn flaenorol yn arcade adloniant)
Mae'r Ddeddf yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am weinyddu trwyddedau a chaniatād o'r Llysoedd Ynadon i'r Awdurdodau Lleol (Awdurdod Trwyddedu).
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae pob eiddo sy'n derbyn Trwydded / neu Ganiatād ar hyn o bryd i ddarparu cyfleusterau gamblo neu eiddo a ddefnyddir i gamblo eisoes wedi cyflwyno cais am addasu i'r Comisiwn Gamblo i redeg busnes a bydd trwyddedau personol a cheisiadau addasu adeiladau trwyddedig wedi'u cyflwyno i'r Cyngor.
Sut all hyn effeithio arnoch chi?
Mae nifer yn bryderus am effaith adeiladau gamblo ar eu cymuned. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i ystyried eich pryderon.
Mae deddf Gamblo 2005 yn caniatįu sylwadau a wnaed gan berson sy'n byw yn ddigon agos i'r eiddo a effeithir gan y gweithgareddau arfaethedig neu rywun sydd ā diddordeb busnes a effeithir efallai gan y gweithgareddau arfaethedig neu rywun sy'n cynrychioli pobl yn un neu'r ddau grŵp uchod.
Cyn gynted a bod yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (Department of Culture, Media and Sport (DCMS) yn rhyddhau y rheoliadau terfynol rhoddir gwybodaeth bellach yma.
Cliciwch ar y linc allanol i gael ffurflen gais, ffioedd, Datganiad o Egwyddorion, Comisiwn Gamblo a DCMS


Rhoi adborth ar y tudalen hon