Tŷ ffrâm goed yn Stryd y Castell, Rhuthun yw Nantclwyd y Dre. Gwyddom o’r dyddiadau blwyddgylch fod y rhan gynharaf wedi’i hadeiladu ym 1435 neu 1436. Gellir olrhain ei berchenogaeth o’r dyddiad hwnnw yn y gyfres ragorol o roliau llys arglwyddiaeth Rhuthun neu Ddyffryn Clwyd yn yr Archifdy Cenedlaethol. Ar ddiwedd 1435 delid y llain o dir y saif y tŷ arno’n awr gan wehydd o Gymro, Goronwy ap Madog, a’i wraig o Saesnes, Suzanna. Roedd gwehyddu’n ddiwydiant pwysig a phroffidiol yn Rhuthun bryd hynny, a Chymry oedd flaenaf yn y diwydiant hwnnw. Ym 1441 prydleswyd y tŷ i ryw John Grey, a oedd yn ôl pob tebyg yn fab anghyfreithlon i aelod o’r teulu Grey a oedd yn dal yr arglwyddiaeth. Erbyn 1456 roedd yn gartref Geoffrey y Clerc, ysgrifydd neu ŵr llythrennog a oedd yn gallu ysgrifennu a siarad Cymraeg a Saesneg, y naill iaith a’r llall, ac a oedd wedi codi i swydd o bwys. Yn niwedd yr 1480au roedd clerc arall, John Flixton, yn byw yno ac roedd ei deulu ef, fel llawer o drigolion Rhuthun yn y cyfnod hwn, wedi dyfod o stadau Swydd Gaerhirfryn teulu Grey.
Ym 1490-1 rhoddodd George Grey, Iarll Caint, y tŷ i John Holland, dyn ariannog a oedd yn grwner yr arglwyddiaeth. Estynnodd ef y tŷ drwy adeiladu asgell groes i’r stryd (a ddymchwelwyd yn ddiweddarach) yn y pen deheuol (pen y castell). Ym 1571 gwerthodd yr Hollandiaid y tŷ i Thomas Wynn ap John ap Harry, hynafiad teulu Parry o Blas Nantclwyd, Llanelidan. Y flwyddyn ganlynol cymerodd Thomas Wynn Ardd yr Arglwydd, y tir yng nghefn y tŷ, a amgylchynwyd gan waliau cerrig anferth, a oedd gynt wedi bod yn ardd lysiau’r castell, ar brydles. Cymerodd mab Thomas Wynn, Simon, cyfreithiwr cefnog yn Llundain, y cyfenw Parry. Yn fuan ar ôl 1600 symudodd i Lanelidan ble bu iddo gynyddu stad Nantclwyd. Ychwanegodd asgell ogledd-orllewinol a neuadd ddeheuol newydd (i gymryd lle estyniad 1491) at y tŷ yn Stryd y Castell, rhwng tua 1620 a 1627. Bu farw yn 1627, ac yn amser ei fab, William, roedd y tŷ, am gyfnod o leiaf, â thenant yn byw ynddo.
Ym 1653 priododd unig ferch ac etifeddes William Parry, Mary, ag Eubule Thelwall, cyfreithiwr arall, Is-Siambrlen etholaeth balatin Caer ac aelod pwysig o uchelwyr Sir Ddinbych. Ychwanegodd le tân cegin gogledd-ddwyreiniol newydd yn estyn allan tua 1662-3 a pharlwr hefyd yn ôl pob tebyg ar safle’r un presennol. Ym 1675, roedd tenant yn byw yn y tŷ, ond ychwanegwyd porth cefn newydd ryw flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach. Bu Thelwall yn byw yn y tŷ ym mlynyddoedd olaf ei oes, o tua 1688 hyd at ei farw ym 1695. Ychwanegodd ato tua 1693 drwy adeiladu’r porth gyda siambr uwchben, gan roi i’r tŷ ei olwg presennol. Ym 1691 prynodd Ardd yr Arglwydd. Yn y pum mlynedd ar hugain nesaf bu perthnasau a thenantiaid yn byw yn y tŷ ar adegau. Gwerthodd wyres Thelwall Nantclwyd y Dre ym 1722 i Edward Wynne o Blas Ucha, Llanefydd. Ymddengys ei fod ef wedi’i ddefnyddio fel tŷ tref. Cafodd ei olynu gan ei fab, John Wynne, a briododd ym 1733. Helaethwyd y tŷ eto pan estynnodd ef y parlwr ac ailwampio’r ystafell wely uwchben yn tua 1733-4. Adeiladodd yr wylfa yn yr ardd hefyd. Ym 1776, trosglwyddwyd y tŷ, trwy briodas, i deulu cyfoethocach a mwy dylanwadol Wynne Coed Coch, Betws-yn-Rhos, a fu’n berchen arno tan 1925. Dim ond ar ôl 1722, fe ymddengys, y rhoddwyd yr enw Nantclwyd y Dre i’r eiddo.
O tua 1798 gosodwyd y tŷ i denantiaid am dros ganrif, ffaith sy’n ddiamau yn egluro ei oroesiad heb ei newid gymharol ddim gan welliannau. Roedd dau o denantiaid canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn llawfeddygon - Robert Roberts a adawodd ym 1851 a Thomas Prytherch a fu farw yno ym 1862. Olynwyd hwy gan Edward Edwards, haearnwerthwr gyda siop yn y Sgwâr, a oedd yn faer Rhuthun ym 1871. Yn ei amser, yn nechrau’r 1880au, bu Joseph Peers, Clerc Heddwch Sir Ddinbych, yn byw fel lletywr yn y tŷ. Bu’n ysgol i ferched am rai blynyddoedd nes dod, ym 1893, yn rheithordy plwyf cyfagos Llanfwrog ac fe’i defnyddiwyd fel y cyfryw hyd at 1916. Ym 1925, gwerthwyd y tŷ i’r tenant mewn meddiant, Clinton Holme, peiriannydd sifil cyfoethog wedi ymddeol. Tynnodd y rendr a oedd wedi gorchuddio’r tŷ ym 1928 a’i werthu ym 1934 i Samuel Dyer Gough, a wnaeth lawer iawn o waith arno. Gwerthodd ei weddw Nantclwyd y Dre i’r Cyngor Sir ym 1984. O 1834 i 1970, defnyddiwyd y tŷ fel y llety i farnwyr a ymwelai â’r dref i eistedd ar yr aseisus.
Os hoffech ddysgu mwy am y tŷ hynod hwn, mae llyfryn ar gael am £3 neu medrwch brynu adroddiad hanesyddol llawn gan CJ Williams am £5; mae’r ddau ar werth yn ystod oriau agor.

Rhoi adborth ar y tudalen hon