Prawf o Oedran
Os byddwch am gael cerdyn prawf o oedran gwnewch yn siŵr ei fod yn un sydd wedi derbyn achrediad PASS. Dim ond darparwyr sydd wedi cael eu harchwilio’n drylwyr i fodloni amddiffyn data a materion rheoli ansawdd a all ddyrannu’r fath gardiau. Dim ond aelodau achrededig a all ôl-ddodi logos diogelwch holograffig fydd, gobeithio, yn helpu masnachwyr cenedlaethol a lleol i gydnabod a derbyn fod eich cerdyn yn un dilys.
Gwirfoddolwyr ar gyfer Pryniant Prawf Dan Oed
Hoffech chi dreulio diwrnod diddorol ac addysgiadol yn gweithio gydag aelodau’r Gwasanaeth Safonau Masnach gan fod yn brynwr prawf mewn siopau yn Sir Ddinbych?
Fe gaech hyfforddiant ar yr hyn sy’n ddisgwyliedig gennych ac ar yr un pryd fe gaech fewnwelediad i rywfaint o waith safonau masnach.
Byddai eich ymdrechion yn help mawr i sicrhau nad yw masnachwyr yn ymddwyn yn anghyfreithlon drwy werthu i bobl sydd dan oed ac yn helpu i amddiffyn buddiannau masnachwyr sy’n ddeddfgadwol.
Diddordeb?
Os ydych rhwng 13½ a 16½ oed ac fe deimlwch fod hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud, trafodwch hynny â’ch rhieni/gwarcheidwad, ac os ydynt yn cytuno gofynnwch iddyn nhw gysylltu â ni drwy ddefnyddio unrhyw un o’r ffyrdd a ddarperir ar dudalen cartref Safonau Masnach fel y gallwn drefnu sgwrs anffurfiol am yr hyn y mae’n ei olygu.
Ni chewch eich talu am eich rhan mewn unrhyw ymarferiad a wnewch â ni ond yn ogystal â derbyn diolchgarwch yr adran am eich cyfraniad gwerthfawr i leihau problem gwerthiannau dan oed, fe gewch dystysgrif y gellid ei rhoi yn eich ffeil ‘llwyddiannau’.
Cystadleuaeth Defnyddiwr Ifanc y Flwyddyn
Mae hon yn gystadleuaeth flynyddol a drefnir gan Sefydliad Safonau Masnach a’r prif noddwr yw’r Swyddfa Masnachu Deg.
I ddechrau fe gynhelir rownd leol. Yn Sir Ddinbych mae hyn yn golygu pob ysgol sy’n cymryd rhan yn cynnal cwis, fel rheol yn y cyfnod cyn y Nadolig. Gall unrhyw nifer o dimau’n cynnwys 4 aelod gystadlu. Mae’n rhaid i bob aelod fod rhwng14 a 17 oed (ni chaiff unrhyw un fod yn 18 cyn Ionawr 01 y flwyddyn ddilynol). Bydd y tîm sydd â’r sgôr uchaf o’r holl ysgolion sy’n cymryd rhan yn mynd ymlaen i’r Rownd Derfynol Ranbarthol yn Llandrindod, a gynhelir fel rheol ym mis Mawrth. Bydd y tîm buddugoliaethus yma yn mynd ymlaen i gynrychioli eu hysgol yn y Rownd Derfynol Genedlaethol yng Nghynhadledd Sefydliad Safonau Masnach a gynhelir ym mis Mehefin.
Fe gysylltir ag ysgolion yn awtomatig i’w gwahodd i gymryd rhan ond, os ydych yn aelod o sefydliad neu grŵp ieuenctid lle mae’r aelodau’n cyfarfod â’r gofynion oed, er enghraifft, Corfflu Hyfforddiant Awyr, ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, yna cysylltwch â ni.
Menter Ifanc
Os hoffech chi unrhyw gymorth pellach perthynol i Safonau Masnach yn gysylltiedig â datblygu neu farchnata eich syniadau yna cysylltwch â ni drwy unrhyw un o’r ffyrdd a ddarperir. (e.e. linc 'Cysylltiad e-bost' ar y chwith).


Rhoi adborth ar y tudalen hon