Yr hyn mae'r Gwasanaeth Rheoli Adeiladau yn ei ddarparu
Mae'r Gwasanaeth Rheoli Adeiladau yn darparu:-
- Cyfarwyddyd a chyngor ar Reoliadau Adeiladu a gofynion technegol cysylltiedig yn ymwneud â chynigion pan wneir cais ac yn ystod y gwaith adeiladu hefyd.
- Cyfarwyddyd a chyngor ar ddarparu mynedfa a chyfleusterau i bobl anabl mewn datblygiad newydd.
- Cyswllt agos gyda'r adran Rheoli Datblygu i ddarparu dull tîm datblygu o fynd ati.
- Prosesu Ceisiadau Rheoliadau Adeiladu o'u derbyn, yn cynnwys gwirio cynlluniau ac ymgynghori gyda chyrff eraill.
- Penderfynu ceisiadau a chyhoeddi penderfyniadau yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu.
- Gwneud archwiliadau safle ac archwilio gwaith wrth iddo fynd yn ei flaen i sicrhau ufudd-dod.
- Darparu tystysgrifau cwblhau wedi i'r gwaith gael ei gwblhau'n foddhaol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon