| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Dim Faniau Catref

Cyflwyno'r rheol dim faniau

Rhaid i unrhyw un sy’n dod â gwastraff cartref i un o Ganolfannau Ailgylchu’r sir mewn trelar â mwy nag un echel, neu gerbyd masnachol, feddu ar drwydded i wneud hynny. 

Ni dderbynnir sbwriel masnachol yn unrhyw un o’r Canolfannau.  
 

Mae’r cerbydau a waherddir yn cynnwys:

  • Lorïau
  • Faniau
  • Pic-yps
  • Trelars efo mwy nag un echel
  • Bws mini
  • Unrhyw gerbyd arall y gellid ei ystyried yn gerbyd ‘masnachol’ 
Pam y cyflwynwyd y gwaharddiad?
  • Roedd pedwar prif reswm am gyflwyno’r cyfyngiadau hyn, sef: 
  • Defnyddwyr busnes yn camddefnyddio’r system a threthdalwyr Treth y Cyngor yn talu’r costau    
  • Roedd rhaid cyflwyno’r system i fodloni gofynion deddfwriaeth amgylcheddol
  • Lleihau tagfeydd ar adegau prysur a lleihau’r amser aros i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y Parc Ailgylchu  
  • Roedd symudiadau faniau yn creu risg i ddiogelwch y cyhoedd a staff yn y Parciau Ailgylchu. 

Sbwriel Adeiladu, Briciau, Teiliau, Pridd

Nid yw'r gwastraff uchod yn cael ei gyfrif fel gwastraff domestig (hyd yn oed os yw'n tarddu o gartref) ac nid oes gan Sir Ddinbych unrhyw orfodaeth i dderbyn y math hwn o wastraff yn ei safleoedd. Rydym yn derbyn swm bach o'r gwastraff hwn ond dim mwy na 3 llond bag pob mis. Os bydd angen cael gwared o fwy o'r math hwn o wastraff yna dylid hurio sgip gan gwmni trwyddedig.

Y Drwydded

Os ydych yn bodloni’r meini prawf a ganlyn cewch gyflwyno cais i Gyngor Sir Ddinbych am drwydded i ganiatáu i chi fynd i’r Parciau Ailgylchu mewn cerbyd a waherddir.

  • rhaid i’r cerbyd fod wedi ei gofrestru yn eich enw chi, nid cwmni neu fusnes neu sefydliad arall
  • rhaid i’r cerbyd fod wedi ei gofrestru i gyfeiriad yn Sir Ddinbych 
  • a heb arwyddion neu hysbysebion ar y cerbyd. 

Os ydych yn bodloni’r meini prawf hyn cewch wneud cais am drwydded drwy lenwi’r ffurflen hon.

I wneud cais am drwydded, llenwch y ffurflen gais isod a'i hanfon at Gyngor Sir Ddinbych gyda chopïau o'ch V5 a dau fil cyfleustodau cyhoeddus diweddar neu eich bil Treth y Cyngor diweddaraf. (Mae anfon llungopïau yn iawn neu gallwn
ddychwelyd eich dogfennau gwreiddiol i chi.)

Anfonwch eich cais at:- “Dim Faniau”, Cyngor Sir Ddinbych, Gwasanaethau Amgylcheddol, Depo Parc Cinmel,
Bodelwyddan, Sir Ddinbych, LL18 5UX.

Adnewyddu eich trwydded

Os yw eich trwydded wedi dod i ben ac mae angen ei adnewyddu, mae angen i chi lenwi ffurflen adnewyddu.  Gallwch drawslwytho ffurflen isod.  Llenwch hi a’i hanfon at 'Van Ban', Gwasanaethau Amgylcheddol, Depo Parc Cinmel, Bodelwyddan, LL18 5UX. 

Os yw eich cerbyd wedi newid neu os ydych wedi symud tŷ, rhowch gopïau o’r ddogfen gofrestru V5 a dau fil gwasanaeth neu fil treth cyngor gyda’ch ffurflen adnewyddu.

Gellir taro ceisiadau i mewn yn swyddfeydd y Cyngor i'w blaenyrru at yr adran sy'n eu dyroddi. Sylwch: Ni ellir rhoi trwyddedau 'Tra byddwch chi'n aros'. Fe anfonir pob trwydded yn y post brenhinol i'r cyfeiriad a ddangosir ar y V5 a'r dogfennau eraill.
 

Os cewch drwydded mae’n rhaid i chi arddangos y ddisg yn ffenestr flaen eich cerbyd tra’n ymweld â’r ganolfan ailgylchu neu ni fydd ein staff yn caniatáu i chi gael mynediad i’r safle. 

Os nad ydych yn gymwys i gael trwydded bydd yn ofynnol i chi drefnu cael gwared o’ch gwastraff yn rhywle arall.  Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth gwastraff masnachol.  Neu, fel arall, gallech fynd i safle gwaredu gwastraff neu drefnu i’r eitem(au) gael ei gasglu gan wasanaeth casglu gwastraff. 

I gael Trwydded Cario Gwastraff neu i wneud cais am ganiatâd i redeg cyfleusterau gwastraff (e.e. gorsaf drosglwyddo) cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd ar 08708 506 506 neu gweler

www.environment-agency.gov.uk/business/sectors/wastecarriers.aspx

Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych