| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cynllun Gwarant Cartrefi Newydd

Cynllun Gwarant Cartrefi Newydd

Am y tro cyntaf, mae Rheolaeth Adeiladu Cyngor Sir Ddinbych, trwy ei gorff cynrychiadol “LABC” (Rheolaeth Adeiladu’r Awdurdod Lleol), yn medru darparu gwarant gartref newydd o ansawdd uchel ochr yn ochr â’i swyddogaeth Rheoli Adeiladu statudol. Mae Gwarant Cartrefi Newydd LABC yn cynnwys 3 cynnyrch penodol:

  • Tai preswyl adeiledig hapfasnachol
  • Tai cymdeithasol
  • Adeiladu Tai Eich Hunan
  • Gweinyddir Gwarant Cartrefi Newydd LABC gan MD Insurance Services Limited (MDIS), y cwmni a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).  Mae gan MDSI 10 mlynedd o brofiad rheoli a rhedeg cyfleusterau arbenigol Latent Defects, ac mae wedi darparu gwarantau o dros £16 biliwn i ddatblygiadau yn y DU ac Iwerddon.

Mae Rheolaeth Adeiladu Sir Ddinbych, drwy LABC, yn ymroddedig i gadw'r safonau uchaf o ddylunio ac adeiladu ac mae’n atebol i’r cyhoedd.  Mae hefyd yn ddarparwr Rheolaeth Adeiladu annibynnol.  Ein nod yw eich cynorthwyo i gynhyrchu adeiladau o safon uchel sy'n cwrdd â gofynion y Rheoliadau Adeiladu wrth gadw'r costau i'r lleiafswm.

Mae LABC, a gydnabyddir fel gwasanaeth rheoli adeiladu cenedlaethol, yn ymrwymedig i gadw’r safonau diogelwch uchaf yn yr amgylchedd adeiledig.  Mae gennym brofiad helaeth o gynorthwyo’r broses ddylunio ac archwilio’r gwaith adeiladu ar y safle.  Gyda rhwydwaith cenedlaethol o 4000 o bersonél proffesiynol, mae LABC yn cynnig cyfuniad o brofiad ymarferol, gwybodaeth leol ac arbenigedd technegol.

Mae gan LABC y gallu i gynorthwyo, cefnogi ac annog arloesi.  Byddai cydweithio gydag LABC o’r cychwyn yn ychwanegu at werth a chynyddu hyder masnachol mewn unrhyw brosiect adeiladu.

Gwarant Cartrefi Newydd LABC

Darpariaeth ar gyfer datblygwyr ac adeiladwyr hapfasnachol gan gwmpasu addasiadau, adeiladau newydd a datblygiadau defnydd cymysg yw hwn.  Mae'r cynnyrch yn cydnabod ac yn gwobrwyo prosiectau o safon gyda phremiymau cystadleuol â thelerau ar flaen y farchnad.  Mae'r gwasanaeth a'r gefnogaeth yn gyflym ac yn ddi-fwlch oherwydd staff profiadol, ymroddedig tîm gwasanaeth cwsmeriaid MDIS.

Darperir archwiliadau technegol gan rwydwaith cenedlaethol o Syrfewyr.  Mae gan bob un o’n syrfewyr brofiad ymarferol helaeth, a dealltwriaeth drylwyr o’r diwydiant adeiladu.  Mae ganddynt arbenigedd mewn amrywiaeth eang o ddulliau adeiladu.  Felly, os ydych am drawsnewid adeilad rhestredig neu adeiladu tyrau o fflatiau, gallwn eich sicrhau y derbyniwch ganllaw a chyngor arbenigol.

Gwarant Tai Cymdeithasol LABC

Gall Gwasanaethau Tai elwa o’r sicrwydd a gynigir gan warant hyblyg o ansawdd uchel, sy’n sicrhau bod tai’n cael eu hadeiladu yn ôl y safon uchaf posibl.

Ateb cystadleuol wedi'i deilwra'n arbennig sy'n cwmpasu perchenogaeth a rennir, a phrosiectau rhentu neu lety i weithwyr allweddol. Gwobrwyir safon gan roi'r un manteision i’r datblygwyr hapfasnachol. Gellir darparu'r yswiriant am gyfnod o 10 neu 12 mlynedd

Gwarant Adeiladu Tai eich Hunan LABC

Gall ymgymryd ag adeiladu tŷ eich hun fod yn straen ar y gorau, heb bryderu am ddiffygion posibl a allai ddigwydd yn ystod neu ar ôl adeiladu eich cartref newydd.

Mae Gwarant Adeiladu Tŷ Eich Hunan LABC wedi ei lunio’n benodol ar gyfer unigolion sy’n adeiladu eu cartrefi eu hunain neu’n gwneud addasiadau.  Mae’r warant yn dibynnu ar gyfres o archwiliadau camau allweddol, a weithredir gan Syrfëwr Archwilio Safle cymwys.

Bydd eich Syrfëwr Archwilio Safle yn gwneud asesiad risg hollgynhwysol, er mwyn sicrhau bod yr adeilad wedi ei adeiladu yn ôl y safon angenrheidiol.  Byddwch yn derbyn gwybodaeth lawn drwy gydol yr asesiad ac fe gewch rybudd os oes unrhyw oedi 

Cliciwch ar yr icon atodol, isod, i lwytho i lawr copi o’r llyfryn, os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Bellach

Ffôn: 0845 054 0505

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0