| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cymorth Gyda Gwaith Cartref
Plant yn wneud gwaith cartref

Cymorth Gyda Gwaith Cartref

Os ydych chi’n cael trafferthion gyda’ch gwaith cartref, beth am droi at eich llyfrgell leol am gymorth?  Mae gan y gwasanaeth llyfrgell amrediad eang o lyfrau i’ch helpu.  I weld pa rai sydd ar gael edrychwch ar ein catalog ar-lein – os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, mae’n bosibl y gallwn ei archebu ar eich cyfer.  Os ydych yn aelod o’r llyfrgell gallwch ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell a’ch rhif PIN i weld:  

Britannica Junior/Britannica Student
Fersiwn electronig ar-lein y gwyddoniadur i blant a phobl ifanc.

Know UK
Fersiwn ar-lein llyfrau cyfeiriol poblogaidd yn cynnwys yr 'Actors Year Book' a 'Who was Who' yn ogystal â gwybodaeth leol.

The Oxford English Dictionary
Y geiriadur mwyaf yn y byd yn cynnwys mwy na 600,000 o eiriau!

Oxford Reference online
Ffeithiau, ffigyrau, diffiniadau a chyfieithiadau o gannodd o lyfrau, y cyfan mewn un lle.  

Gweler y ddolen ar y chwith.

Os ydych chi’n riant plentyn saith i unarddeg oed sydd wedi cael gwaith cartref yn Gymraeg, ac nad ydych yn sicr ynghylch yr eirfa neu’r ramadeg, ffoniwch y Llinell Gymorth Gwaith Cartref: 0871 230 0029, neu anfonwch neges e-bost: cymorth@galw.org.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0