| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Anifeiliaid Marw

Gwnaiff y Gwasanaethau Amgylcheddol gasglu a chael gwared o anifeiliaid mawr a ganfyddir ar y ffyrdd neu mewn mannau cyhoeddus eraill.  Darperir y gwasanaeth hwn er diogelwch defnyddwyr y ffyrdd ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 

Nid yw’r Cyngor yn dod i gasglu anifeiliaid bach gan mai prin yw’r risg i ddiogelwch y ffyrdd neu iechyd y cyhoedd.  Gall nôl anifeiliaid marw oddi ar y ffordd fod yn beryglus felly mae’n well gennym ganiatáu i natur wneud ei gwaith yng nghyswllt anifeiliaid bach.  Nid oes gan y Cyngor yr adnoddau i gasglu a chael gwared o bob anifail sy’n marw mewn man cyhoeddus.

Mae’r anifeiliaid y gwnawn eu casglu yn cynnwys:

  • Ceirw
  • Moch daear
  • Llwynogod
  • Dyfrgwn
  • Defaid
  • Cŵn
  • Cathod
  • Elyrch
  • Morfilod
  • Dolffiniaid
  • Llamhidyddion
  • Morloi
  • Anifeiliaid sy’n FWY na’r rhain 

Mae’r anifeiliaid NA WNAWN eu casglu yn cynnwys:

  • Cwningod
  • Sgwarnogod
  • Carlymau
  • Wencïod
  • Llygod mawr
  • Ffesantod
  • Gwylanod y môr
  • Colomennod
  • Hwyiaid
  • Anifeiliaid sy’n LLAI na’r rhain
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych