| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Strategaeth Dinas y Rhyl

STRATEGAETH DINAS Y RHYL YN SYMUD YMLAEN I 2011

Mae Strategaeth Dinas Y Rhyl wedi derbyn cefnogaeth barhaol gan Adran Gwaith a Phensiynau i daclo diweithdra ac anactifedd yn y dref.  Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol, James Purnell ym mis Mehefin y bydd Y Rhyl ymysg 15 o Fraenaron Strategaeth Dinas sy’n derbyn parhad mewn ariannu am ddwy flynedd ychwanegol tan 2011.  Rhyngddynt bydd y 15 ardal, sy’n cynnwys Birmingham, Caeredin, Glasgow, Lerpwl, Greater
Manchester, Nottingham a Dwyrain a Gorllewin Llundain, yn derbyn £5 miliwn ychwanegol i barhau i adeiladu eu cynhwysedd.  Y Rhyl a Blaenau’r Cymoedd yw’r unig ddau Fraenarydd Strategaeth Dinas yng Nghymru.

Mae Strategaeth Dinas Y Rhyl eisoes wedi gweld rhai canlyniadau positif ers ei gychwyn yn gynnar yn 2007, gyda lleihad yn nifer y di-waith, a chyda gweithio agos rhwng partneriaid yn y sectorau preifat, gwirfoddol a statudol gyda’r nod o wella darpariaeth a gwasanaethau ar gyfer pobl ddi-waith lleol.

Yn ychwanegol at gostau craidd, mae dyraniad Ariannu Ardaloedd Difreintiedig yn cefnogi ystod o fentrau i helpu pobl i gael gwaith.  Mae’r prosiectau’n addo rhaglen eang ac amrywiol o weithgaredd sy’n darparu cyfleoedd i bobl leol ennill sgiliau gwerthfawr a phrofiad a fydd yn arwain, gobeithio, at gyflogaeth.

Mae Coleg Llandrillo Y Rhyl yn cynnal hyfforddiant adwerthu cyn-gyflogaeth yng nghyfleuster y “Rhith Siop” yn Ffordd Wellington, Y Rhyl.  Mae’r cyrsiau 6 wythnos yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill profiad mewn gofal cwsmeriaid, delio ag arian parod, adeiladu hyder, sgiliau i sicrhau cyflogaeth, a chyflwyniad i waith siop a chownter.  Mae yna gyfle hefyd i fynd ar ddyddiau profi gwaith gyda storfeydd adwerthu lleol, ffeindio gwybodaeth a chyngor ar yrfaoedd, ysgrifennu CV ac ymarfer sgiliau cyfweliad.

Mae Pêl Droed Y Rhyl yn y Gymuned yn hyfforddi deuddeg o bobl i ennill gwobr hyfforddiant pêl droed Lefel Un (yn cynnwys Gwobr Arweinwyr Pêl Droed Cymdeithas Pêl Droed Cymru, Gwobr Golgeidwaid Cymdeithas Pêl Droed Cymru, cwrs Cymorth Cyntaf Cymdeithas Pêl Droed Cymru a gwobr Lles ac Amddiffyn Plant Cymdeithas Pêl Droed Cymru).  Bydd y rhaglen yn delio ag egwyddorion hyfforddiant sylfaenol, cynllunio sesiynau, cyfarpar ac adnoddau, sgiliau cyfathrebu, materion iechyd a diogelwch, diet a maethiad, a phêl droed ac anabledd.

Mae Asiantaeth Menter Sir Ddinbych yn sefydlu cynllun Profi Masnachu, gan roi cyfle i bobl roi cynnig ar eu syniad busnes tra’n dal i dderbyn budd-daliadau am 13-26 o wythnosau.  Gall pobl sydd â diddordeb mewn rhedeg eu busnes eu hunain ddod draw i sesiwn gyntaf i brofi eu syniadau, cyn penderfynu mynd ar gwrs “Bod yn Feistr Arnoch Chi eich Hun”.  I’r rhai hynny sy’n penderfynu mynd amdani, mae yna fentora a chefnogaeth a grant dechreuol, a digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd.

Mae rhaglenni ‘Get Into’ The Princes Trust Cymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc 16-25 oed ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth ac ennill cymwysterau ar gyfer sector arbennig.  Bydd y cwrs yn Y Rhyl yn cynnwys gweithdai ar ysgrifennu CV a thechnegau cyfweliad, a chaiff y rhai sy’n cymryd rhan gyfle i gyfarfod â chyflogwyr lleol yn y diwydiant perthnasol i drafod swyddi, prentisiaeth a chyfweliadau.  Yn dilyn y rhaglen, bydd y bobl ifanc yn derbyn cefnogaeth mentora wedi ei anelu at gynyddu eu siawns o gael gwaith.

Mae manylion am yr holl brosiectau hyn ar gael ar wefan Strategaeth Dinas Y Rhyl ar www.rhylcitystrategy.co.uk

Caiff Strategaeth Dinas Y Rhyl ei chefnogi’n lleol gan ystod eang o sefydliadau, yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Arriva, Clwyd Coast Credit Union, Hamdden Clwyd, Coleg Llandrillo Y Rhyl, Canolfan Byd Gwaith, Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych, Canolfan Ferched Gogledd Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Cadeirydd y Consortiwm Strategaeth Dinas yw Chris Ruane AS.

Am wybodaeth bellach neu i ddarganfod sut y gallwch fod ynghlwm â’r fenter allweddol hon, cysylltwch â’r tîm ar 01745 343605.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0