Mae ein gwaith mewn Diogelwch Cymunedol yn cael ei yrru gan ddeddfwriaeth bellach. Daeth Y Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Gwybodaeth Benodedig) 2007, i rym ar 1 Awst 2007. Maent yn gorchymyn bod rhaid i wybodaeth arbennig, os caiff ei chasglu gan yr awdurdod lleol, gael ei chyflenwi’n electronig i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Yr wybodaeth a gaiff ei chasglu ac a ddylai gael ei chyflenwi yw;
Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd (Diogelwch y Ffyrdd)
Gwybodaeth a ddelir gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal am amser, dyddiad a lleoliad pob gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn yr ardal a nifer yr oedolion a phlant a laddwyd, a anafwyd yn ddifrifol ac a anafwyd ychydig ym mhob un o’r gwrthdrawiadau hyn.
Gwaharddiadau Ysgol (Addysg)
Gwybodaeth a ddelir gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal am oed a rhyw pob un o’r disgyblion sydd wedi’u gwahardd yn barhaol neu am gyfnod penodol o ysgolion cynradd ac uwchradd y wladwriaeth yn yr ardal, enwau a chyfeiriadau’r ysgolion y mae’r disgyblion hynny wedi’u gwahardd ohonynt a’r rhesymau dros eu gwahardd.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y rhoed gwybod amdano gan yr Awdurdod
Problemau a glustnodwyd gan Drwyddedu, Iechyd Anifeiliaid, Safonau Masnach, Llygredd Sŵn, Gorfodaeth Tai, Ymddygiad gwrthgymdeithasol Tai, Gwasanaethau Amgylcheddol-, Rheolaeth gynllunio. Gwybodaeth a ddelir gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal am gategori, amser, dyddiad a lleoliad pob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol a glustnodwyd gan yr awdurdod, ac yn yr ardal, fel y diffiniwyd yn unol â’r Rhestr Categorïau Digwyddiadau Cenedlaethol yn Safonau Cendlaethol arwyddiadau Cofnodi Digwyddiadau i Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2007/2008 neu unrhyw system arall ar gyfer dosbarthu ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddefnyddir gan yr awdurdod hwnnw ar ddyddiad y Rheoliadau hyn.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y rhoed gwybod amdano i’r Awdurdod
(Cwynion a wnaed ac a gofnodwyd gan Drwyddedu, Iechyd Anifeiliaid, Safonau Masnach, Llygredd Sŵn, Gorfodaeth Tai, Ymddygiad gwrthgymdeithasol Tai, Gwasanaethau Amgylcheddol-, Rheolaeth gynllunio, Gwybodaeth a ddelir gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal am gategori, amser, dyddiad a lleoliad pob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol y rhoed gwybod amdano i’r awdurdod gan y cyhoedd, yn yr ardal, fel y diffiniwyd yn unol â’r Rhestr Categorïau Digwyddiadau Cenedlaethol yn Safonau Cenedlaethol Cyfarwyddiadau Cofnodi Digwyddiadau i Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2007/2008 neu unrhyw system arall ar gyfer dosbarthu ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddefnyddir gan yr awdurdod hwnnw ar ddyddiad y Rheoliadau hyn.

Rhoi adborth ar y tudalen hon