Beth rydym yn wneud?
Mae'r tîm Pridiannau Tir Lleol yn gyfrifol am broses Chwiliadau Awdurdod Lleol, sy'n rhan hanfodol o brynu eiddo neu ddatblygu darn o dir.
Mae'r Chwiliad Awdurdod Lleol yn gyfres o gwestiynau safonol gyda'r nod o roddi cymaint o wybodaeth ag y bo modd i unrhyw ddarpar brynwr ynglŷn ag eiddo/dir. Mae hyn er mwyn i chi fod yn ymwybodol o unrhyw faterion lleol sy'n effeithio'r eiddo/dir rydych ar fin ei brynu, i sicrhau nad oes unrhyw beth cudd.
Bydd y tîm Pridiannau Tir Lleol yn chwilio am unrhyw Geisiadau Cynllunio neu Geisiadau Rheoliadau Adeiladu ar yr eiddo, Gorchmynion Cadw Coed ar neu'n cyffinio'r eiddo a darparu gwybodaeth ar Ffyrdd mabwysiedig o gwmpas yr eiddo, ac unrhyw faterion eraill yr holir amdanynt.
Os ydych angen Chwiliad Awdurdod Lleol neu Chwiliad Cofrestriad Comin, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch Cyfreithiwr a gofyn iddo gysylltu â'r tîm Pridiannau Tir Lleol, a fydd yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd.
Mae'r Chwiliad fel arfer yn cynnwys dwy ran, sef y ffurflen LLC1 a'r ffurflen LLC1 a'r ffurflen CON29.
LLC1 - Cais am Chwiliad a thystysgrif chwiliad swyddogol, yn gofyn am wybodaeth o'r gofrestr ynglŷn â'r Pridiannau Tir Lleol a gofrestrwyd ar gyfer yr eiddo yn Sir Ddinbych, megis ceisiadau cynllunio, gorchmynion cadw coed, grantiau, ardaloedd cadwraeth etc. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw Cofrestr Pridiannau Tir Lleol sy'n cynnwys y wybodaeth.
CON29 - Rhestr o ymholiadau safonol a anfonir i'r awdurdod lleol, yn cynnwys 16 o ymholiadau gorfodol, ac 18 y mae modd dewis o'u plith.
Gallwch anfon cais drwy'r post ar ffurflenni LLC1 a CON29, defnyddiwch swyddfa cyfreithiwr neu asiant chwiliadau.
Rydym yn gallu derbyn a gyrru chwiliadau electronig drwy'r system NLIS, 'National land Information Service', gweler y linc gyswllt gyferbyn.
Os hoffech wneud ymholiadau am berchenogaeth tir yn Sir Ddinbych cysylltwch â'r Gofrestr Tir neu edrychwch ar y wefan, gweler y linc gyferbyn.


Rhoi adborth ar y tudalen hon