Cosbau Parcio
Cosbau Uwch:
- Wedi parcio mewn stryd gyfyngedig yn ystod oriau penodedig
- Wedi parcio neu’n llwytho/dadlwytho ar stryd lle mae cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho’n weithredol
- Wedi parcio mewn man parcio preswylwyr neu fan parcio a rennir heb ddangos un ai drwydded neu daleb neu docyn talu ac arddangos ar gyfer y lle hwnnw
- Wedi parcio mewn man trwydded heb arddangos trwydded ddilys
- Defnyddio cerbyd mewn man parcio a hynny’n gysylltiedig â gwerthu neu gynnig neu ddangos nwyddau i’w gwerthu a hynny wedi ei wahardd
- Wedi parcio mewn gofod llwytho wedi ei farcio â llinell felen
- Wedi parcio mewn man parcio sydd wedi ei wahardd neu ran o fan parcio sydd wedi ei wahardd
- Wedi parcio mewn man parcio neu le nad yw wedi ei ddynodi ar gyfer cerbyd o’r dosbarth hwnnw
- Wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho
- Wedi parcio mewn man sydd wedi ei ddynodi ar gyfer person anabl heb arddangos Bathodyn Glas dilys person anabl
- Wedi parcio mewn man sydd wedi ei ddynodi ar gyfer cerbydau’r heddlu
- Wedi parcio mewn safle tacsis
- Wedi stopio lle mae hynny’n waharddedig (ar glirffordd)
- Wedi stopio ar safle bysiau sy’n waharddedig
- Wedi stopio mewn man gwaharddedig y tu allan i ysgol
- Wedi parcio’n gyfangwbl neu’n rhannol ar lwybr beic
- Cerbyd masnachol wedi parcio ar stryd waharddedig yn groes i’r Gwaharddiad Aros Dros Nos
- Wedi parcio’n groes i gyfyngiad arhosiad cerbyd masnachol
- Wedi parcio’n groes i gyfyngiad gwaharddiad bws
- Cerbyd masnachol trwm wedi parcio’n gyfangwbl neu’n rhannol ar droedffordd, ymyl neu dir rhwng dwy ffordd
- Wedi parcio gydag un neu fwy o olwynion ar unrhyw ran o’r droedffordd lle mae yna waharddiad parcio
- Wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb esgus rhesymol
- Wedi parcio mewn man cyfyngedig mewn maes parcio
- Wedi parcio mewn bay trwydded heb ddangos trwydded ddilys yn glir
- Wedi parcio mewn lle person anabl heb ddangos bathodyn dilys person anabl yn glir
- Mae’r car sydd wedi ei barcio dros y pwysau a/neu’r uchder a/neu’r hyd a ganiateir yn yr ardal
- Wedi parcio mewn maes parcio neu ardal nad yw wedi ei ddynodi ar gyfer car o’r dosbarth hwnnw
Cosbau Is:
- Wedi parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos dilys yn glir
- Wedi parcio ar ôl yr amser a dalwyd amdano
- Wedi parcio mewn bae mesurydd pan fo amser cosb yn dangos
- Wedi parcio gyda thaliad i ymestyn yr arhosiad dros yr amser cychwynnol
- Wedi parcio wrth fesurydd sydd wedi torri yn ystod oriau rheoledig
- Wedi parcio gan arddangos tocynnau talu ac arddangos lluosog lle mae hynny’n waharddedig
- Wedi parcio gyda’r peiriant yn troi lle mae hynny’n waharddedig
- Wedi parcio heb arddangos yn glir ddau docyn talu ac arddangos dilys pan fo hynny’n angenrheidiol
- Wedi parcio heb dalu’r costau parcio
- Wedi parcio mewn man parcio preswyliwr heb arddangos trwydded parcio preswylwyr dilys yn glir
- Wedi parcio mewn man pario preswylwyr neu fan a rennir gan arddangos trwydded annilys, taleb annilys neu docyn talu ac arddangos annilys
- Wedi ail-barcio yn yr un man parcio o fewn awr o ymadael
- Heb barcio’n gywir o fewn marciau’r bae neu’r man parcio
- Wedi parcio’n hirach nag a ganiateir
- Wedi parcio mewn man parcio disc heb arddangos disg ddilys yn glir
- Wedi parcio mewn man parcio disc yn hirach nag a ganiateir
- Wedi parcio’n hirach na’r cyfnod a ganiateir
- Wedi parcio ar ôl terfyn yr amser a dalwyd amdano
- Wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos dilys yn glir
- Wedi parcio gyda thaliadau ychwanegol i ymestyn yr arhosiad yn hirach na’r amser a dalwyd amdano ar y cychwyn
- Wedi parcio y tu hwnt i farciau’r bae
- Wedi ail-barcio o fewn awr i ymadael â’r bae mewn maes parcio
- Wedi parcio mewn maes parcio a hwnnw wedi cau
- Wedi parcio mewn maes parcio talu ac arddangos heb arddangos dau docyn talu ac arddangos dilys pan oedd angen
- Wedi parcio mewn man parcio i bwrpas gwahanol i’r pwrpas dynodedig ar gyfer y lle parcio

