| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Angen barn ar addysg ôl 16 yn Y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio ymgynghoriad swyddogol ar gynlluniau i ad-drefnu addysg ôl 16 yn y Rhyl.

Ym mis Chwefror, cytunodd Cabinet Sir Ddinbych i'r Cyngor ymgynghori ar y cynlluniau i gau y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones.  Bydd y cynllun yn cynnwys darparu addysg ac hyfforddiant ôl 16 yng Ngholeg Llandrillo Y Rhyl.

Bydd digwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal yng Ngholeg Llandrillo Y Rhyl ar Ebrill 28ain ar gyfer rhieni, y gymuned addysg a busnesau lleol.  Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi ar y wefan ac yn y wasg yn fuan.

Dylai unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu gyrru at y Gwasanaeth Gwelliant Ysgol, Cyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes, Cyngor Sir Ddinbych, Trem Clwyd, Canol y Dre, Rhuthun, LL15 1YN, neu drwy e-bost at: admineducation@denbighshire.gov.uk

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0