Rheolwr Comisiynu a Chytundebau - Alice
Fel y Rheolwr Comisiynu a Chytundebau rwy’n rheoli timau sy’n delio â Chomisiynu, Cytundebau, Broceriaeth Gofal, Asesiad Ariannol, Derbynyddiad a gwasanaeth Cefnogi Pobl. Gan fod cwmpas fy nghyfrifoldeb yn eang, rwy’n gorfod dibynnu ar reolwyr a staff sy’n fy nghefnogi ac rwy’n lwcus o allu dibynnu ar dîm o staff sy’n ddiwyd ac yn gweithio mor galed.
Cychwynnodd fy swyddogaeth o fewn Sir Ddinbych yn 1989 fel teipydd dros dro, yna swydd dros dro arall fel teleffonydd/derbynnydd yn swyddfa’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Rhuthun. Roedd y gwaith yn golygu llawer o dasgau clerigol yn cynnwys dyrannu trwyddedau parcio i’r anabl a mwy fyth o deipio. Crëwyd swyddi newydd pan ddigwyddodd yr ad-drefnu yn 1990 a bûm yn ddigon ffodus i gael fy mhenodi’n Swyddog Asesu Ariannol (SAA). Roedd y swydd yn golygu asesu’r swm y gall pobl fforddio ei dalu am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn, codi tâl ar y defnyddwyr gwasanaeth am y gwasanaethau hynny a thalu i ddarparwyr y gwasanaeth.
Wrth i mi ennill mwy o brofiad fel Swyddog Asesiad Ariannol, cymerais fwy o gyfrifoldeb oedd yn golygu hyfforddiant, cefnogi Swyddogion Asesu Ariannol eraill a dirprwyo i’r Rheolwr Swyddfa. Pan ddaeth swydd y Rheolwr Swyddfa’n wag, fe gefais y swydd honno a’r cyfrifoldeb o reoli’r Swyddogion Asesu Ariannol a’r tîm gweinyddu yn Ne’r sir. Bûm ar gyrsiau rheoli gan ennill NVQ mewn rheolaeth.
Daeth fy swydd bresennol yn wag ym Mawrth 2005 a bu fy nghais amdani’n llwyddiannus. Mae’r timau amrywiol ‘rwy’n eu rheoli’n nodi pa wasanaethau fydd eu hangen, yn talu a chodi tâl am y gwasanaethau hynny, ac yn delio â chyllid cleientiaid. Rwy’n gweithio â chydweithwyr mewn gwaith cymdeithasol, y sector wirfoddol, darparwyr preifat, Awdurdodau Lleol eraill a’r sector Iechyd. Mae fy ngwaith yn ymdrechgar ac yn ddiddorol, ac yn sicr byth yn ddiflas.
Roedd fy mhrofiad cyn gweithio i Sir Ddinbych yn amrywiol ac yn cynnwys sawl swydd weinyddol, ond hefyd ddau gyfnod o redeg fy musnes fy hun - un oedd asiantaeth gyflogi oedd yn delio hefyd â chyfieithiadau technegol ac, yn gwbl wahanol, siop DIY/addurno - felly roedd fy mhrofiad gwaith yn eang iawn cyn i mi ymuno â Sir Ddinbych. Mae lled fy mhrofiad gwaith cyn ac ar ôl ymuno â Sir Ddinbych wedi bod o gymorth mawr iawn yn y ddwy swydd ddiwethaf. Mae gen i ddealltwriaeth well o lawer o’r ffordd y mae penderfyniadau’n effeithio ar swyddogaethau eraill o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r sir gyfan. Fe fyddwn i’n llwyr gymeradwyo derbyn swydd ar raddfa is fel cam ar ysgol gyrfa; rwy’n ei ystyried yn gyfle i ddysgu. Yn aml gallwch ddysgu mwy am sefydliad drwy ymuno ar lefel is nag a allech chi byth drwy ddod i mewn yn syth ar raddfa uwch.
Wedi gweithio i nifer o gwmnïau dros y blynyddoedd, gallaf ddweud yn onest fod Cyngor Sir Ddinbych, a Chyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai’n benodol, yn gwmni ardderchog i weithio iddo. Caiff staff eu hannog i ymgyraedd â’u potensial llawn, drwy hyfforddiant a chyfleoedd datblygu yn y gweithle. Maent wedi caniatáu i mi, ac wedi fy annog i gyrraedd fy safle presennol ac i ennill cymhwyster gradd o’r diwedd, rhywbeth yr oeddwn wedi ei addo i mi fy hun lawer blwyddyn yn ôl wrth adael coleg.

Rhoi adborth ar y tudalen hon