1. Rwyf yn oedolyn gydag anabledd dysgu, nam gweld neu synhwyrol, neu amhariad meddyliol. Beth fyddai Lleoliad Oedolyn yn olygu i mi?
Gall lleoliad oedolyn fod yn:
rywle i fyw
rhywle i aros am ysbaid fer
rhywle i fynd am gefnogaeth yn ystod y dydd
rhywun fydd yn cynnig cefnogaeth i chi i fyw yn eich cartref eich hun
Mewn pob lleoliad oedolyn fe gewch eich helpu a’ch cefnogi gan rywun a elwir yn ofalwr lleoli oedolyn fydd yn rhannu eu cartref â chi ac yn eich cynnwys fel rhan o’u teulu.
Hefyd mae yna lawer o wahanol fathau o ofalwyr lleoli oedolion. Mae rhai o’r gofalwyr lleoli oedolion yn gyplau a rhai yn bobl sengl. Mae gan rai ohonynt blant. Mae rhai yn rhoi help a chefnogaeth i fwy nag un person.
Os hoffech gwybod mwy am Lleoli Oedolion, gwelwch y ganllaw i ddefnyddwyr gwasanaeth isod.
2. Rwy’n ystyried bod yn Ofalwr Lleoliad i Oedolyn. Sut medraf canfod mwy?
Mae Lleoli Oedolion yn darparu llety ar gyfer oedolion sy’n agored i niwed, sydd dros 18 oed mewn cartrefi pobl sydd wedi eu recriwtio’n arbennig ac sy’n byw yn y gymuned ac a elwir yn Ofalwyr Lleoli Oedolion. Caiff y gofalwyr eu hasesu ar gyfer eu haddasrwydd, ac mae panel annibynnol yn gyfrifol am sicrhau fod pobl addas yn cael eu penodi’n ofalwyr. Mae Gofalwyr Lleoli Oedolion yn darparu cefnogaeth yn eu cartrefi eu hunain i ddefnyddwyr gwasanaeth am dâl a gytunir yn ysgrifenedig cyn cychwyn y lleoliad.
Mae Lleoliadau Oedolion ar gael i oedolion rhwng 18 a 65, gwryw neu fenyw, sydd ag anabledd dysgu, amhariad corfforol neu nam ar y synhwyrau, neu afiechyd meddwl, a gallai hefyd fod yn addas i oedolion dros 65 oed. Gall lleoliadau fod yn rhai tymor hir neu dymor byr, a gallant gynnwys gofal seibiant, gwasanaethau estyn allan a gwasanaethau eraill sy’n seiliedig ar y gymuned.
Fe gynllunnir y lleoliadau fel eu bod yn cyfarfod ag anghenion unigolion, ac yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth ymgyraedd â’u potensial llawn. Bydd gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar y profiad.
I ganfod mwy, gwelwch y dogfen isod.
Neu medrwch cysylltu â’r Tîm Cyswllt Cyntaf:
Gyda’r post: Tîm Cyswllt Cyntaf neu Tîm Cyswllt Cyntaf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Neuadd y Sir
64 Ffordd Brighton Ffordd Wynnstay
Y Rhyl Rhuthun
LL18 3HN LL15 1AS
Ffôn: 01824 712900
Ebost: firstcontactteam@denbighshire.gov.uk
Ffôn fideo: 01824 706418
Minicom: 01745 345160
Ffacs: 01824 712888
Ffôn tecst: 07917 597 993 (i bobl sy’n fyddar neu ac amhariad ar y clyw)

Rhoi adborth ar y tudalen hon