Mae llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych wedi lansio ymgyrch i annog babis a phlant bach i ymaelodi â’r llyfrgell.
Bydd pob plentyn 0-3 oed sy’n ymuno â’r llyfrgell am y tro cyntaf yn derbyn tedi bêr Dechrau Da fel anrheg am ddim.
Mae llyfrgelloedd wrth eu bodd gyda babis a phlant bach, ac fe fydd croeso arbennig i blant ifanc. Mae’r llyfrgell yn cynnig y dewis gorau o lyfrau gwych sydd ar gael i’w benthyg am ddim. Mae gan llyfrgelloedd amseroedd stori a rhigwm arbennig i blant bach ac fe all staff llyfrgell gynnig cymorth i ddewis llyfrau a DVDs.
Trwy ymaelodi â’r llyfrgell, bydd plant yn datblygu sgiliau dysgu a chymdeithasol cynnar – ac mae’r llyfrgell yn le cynnes a chyfeillgar i deuluoedd ymweld. Mae’r rhyngrwyd am ddim ac mae ’na lyfrau i oedolion hefyd, ac mae croeso i chi fronfwydo mewn llyfrgell.
Gall plant bach fod yn fywiog ac yn swnllyd weithiau – ond does dim problem gyda hynny mewn llyfrgelloedd y dyddiau hyn. Ni fydd plant yn talu am niwed i lyfrau nac am ddychwelyd llyfrau’n hwyr chwaith.

Rhoi adborth ar y tudalen hon