Chwythu'r bib
Chwythu’r bib
Mae rhywun yn chwythu’r bib pan fyddant yn sôn wrth eu cyflogwr am weithgaredd peryglus neu anghyfreithlon y maent yn gwybod amdano drwy eu gwaith.
Gall chwythu’r bib hysbysu’r rheini sydd ag angen gwybod ynghylch:
- peryglon iechyd a diogelwch,
- problemau amgylcheddol posibl,
- twyll,
- llygredd,
- diffygion yng ngofal pobl fregus,
- ffug-esgusion, a
- llawer o broblemau eraill.
Nid er mwyn i weithwyr wneud cwyn ynghylch eu sefyllfa eu hunain neu i'r cyhoedd wneud cwynion y mae’r Polisi. Mae gan y Cyngor weithdrefnau eraill ar gyfer y rheini’n barod.

Rhoi adborth ar y tudalen hon