Cyflwyniad
Ysgol Bro Elwern yw ysgol gynradd pentref Gwyddelwern, hefo 29 disgybl ar hyn o bryd a 6 yn y feithrinfa. Mae gan y pentref neuadd bentref a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau arferol bywyd pentref, o gymdeithasau i ddefnydd preifat. Does gan Ysgol Bro Elwern ddim neuadd Ysgol neu ystafell fwyta benodol, ac felly defnyddir neuadd y pentref i wneud addysg gorfforol a pherfformiadau Ysgol. Rhaid i'r plant gerdded trwy'r pentref i gyrraedd y neuadd gan olygu nad yw’r Ysgol yn defnyddio'r cyfleusterau hyn pan fydd y tywydd yn wael. Mae neuadd y pentref angen buddsoddiad sylweddol i'w gwella hyd safon dderbyniol.
Elfennau allweddol y cynllun
Y bwriad yw adeiladu neuadd i'w rhannu (rhwng yr Ysgol / Cymuned) fel estyniad i'r adeilad Ysgol presennol. Bydd y cyfleusterau newydd yn darparu :
• Neuadd bentref sawl swyddogaeth hefo llwyfan y gellir ei ddymchwel
• Cegin Ysgol newydd
• Toiledau a storfa.
Oherwydd y bydd y cynllun yn cynyddu gofod y llawr yn sylweddol, bydd angen efallai adnewyddu'r fwyler olew. Gan ystyried cost olew ar hyn o bryd a gan edrych i'r dyfodol mae opsiynau carbon isel megis paneli thermal, bwyleri biomas a phympiau gwresogi newydd yn cael eu hystyried.
Ar ôl ei gwblhau, y bwriad yw gwerthu safle'r hen neuadd bentref. Rhoddir ystyriaeth hefyd i greu lle chwarae cymunedol newydd ar draws y ffordd o'r lle chware presennol fel rhan o'r cynllun.
Mantais y cynllun
Bydd y cynllun newydd yn cynnig y manteision canlynol:
• Bydd disgyblion Ysgol Bro Elwern yn cael amgylchedd gwell a mwy diogel i ddysgu, cael addysg gorfforol a pherfformio mewn cyngherddau a dramâu.
• Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i Gyngor Sir Ddinbych beilota cynllun newydd a thechnoleg i gael adeiladau zero garbon.
• Caiff disgyblion a'r gymuned gyfle i ddysgu mwy am dechnoleg carbon isel a gweld manteision cynllun o'r fath.
• Caiff y gymuned gyfle i ffocysu ar weithgareddau codi arian o amgylch cynllun newydd a chynhyrfus.
• Mae'r prosiect yn darparu cyfle i gynnal amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol.
• Bydd cyfaint yr Ysgol yn codi i 51 o lefydd i ddisgyblion, hefo 6 lle meithrin.
• Bydd lleoli cegin newydd ger y neuadd yn gwella'r ddarpariaeth arlwyo'n sylweddol a'r trefniadau bwyta i'r plant.
Cyllideb
Y gyllideb i'r prosiect yw £0.5 miliwn, a darperir arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.
Amserlen
Mawrth 2009 – dechrau ar y safle
Awst 2009 – cwblhau gwaith adeiladau
Medi 2009 – agor yr adeiladau.
Newyddion diweddaraf
Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar 16 Gorffennaf. Roedd yr ymarfer gweledigaeth yn sicrhau bod pob awgrym a syniad wedi'u hystyried, ac ymunodd 14 o bobl leol i fod yn rhan o grwp llywio'r cyfleusterau newydd. Os hoffai unrhyw un helpu hefo'r cynllun cymunedol hwn ffoniwch Sian Owen ar 01824 706202
Diweddarwyd y dudalen hon ar: 29/07/08

Rhoi adborth ar y tudalen hon