Cyflwyniad
Mae Ysgol Dinas Bran yn Ysgol Uwchradd yn Llangollen i ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed. Mae gan yr Ysgol nifer o adeiladau sy'n dyddio ers 1930 a datblygwyd y safle ad-hoc dros y 70 mlynedd diwethaf.
Mae'r Ysgol yn defnyddio prif neuadd yr Ysgol i drefnu cinio Ysgol o gegin a man bwyta sydd ar lefel y llwyfan. Hon yw'r unig Ysgol Uwchradd sydd heb gyfleusterau bwyta priodol.
Bydd y prosiect yn adeiladu estyniad newydd i gynnwys ystafell fwyta a chegin ac adnewyddu'r lle presennol o fewn y bloc mathemateg 4 llawr ac addasu hen leoliad y gegin i fod yn ystafelloedd cerdd ac ymarfer newydd.
Elfennau allweddol o'r cynllun
Bydd y prosiect mewn 3 rhan :
• Rhan 1a - Ystafelloedd ar gefn y bloc CDT yn diflannu ac adnewyddu'r bloc brechdan presennol yn lle i ddwy ystafell ddosbarth 53.2m2 yr un, ac addasu'r safle o olew i nwy gan gynnwys gosod cyflenwadau nwy a bwyleri newydd .
• Rhan 1b - adeiladu estyniad newydd lle bu'r stafelloedd symudol, bydd yn cynnwys ystafell fwyta, cegin a chyfleusterau glanweithdra a hefyd foyer i gysylltu â'r bloc 4 llawr presennol. O fewn Rhan 1b gosodir lifft i gyrraedd y lefel fwyta newydd a phob llawr arall yn y bloc.
• Rhan 1c - adnewyddu hen ystafelloedd newid y 6ed Dosbarth ar yr ail lawr yn floc 4 llawr ac addasu safle dau ddosbarth parhaol 35.2m2 a 72.5m2, ardal gyfatebol ar y 3ydd llawr i greu dau safle dosbarth parhaol 35.2m2 a 72.5m2, ac ar hen safle’r gegin bydd dwy ystafell gerdd newydd a dwy ystafell ymarfer newydd.
Hefyd gosodir sbrinclwr i'r adeilad newydd ac i'r rhannau newydd o'r adeilad presennol. Trefnwyd y system fel y gellir ei addasu yn y dyfodol.
Budd y cynllun
Gweithredir y cynllun yn llawn er mwyn:
• Dileu ystafelloedd tros dro
• Rhyddhau'r llwyfan a'r neuadd i gael y defnydd priodol ;
• Creu ystafell fwyta fodern, ddeniadol;
• Trefnu cegin o'r radd orau;
• Datrys materion mynediad i ran fawr o safle'r Ysgol;
• Gwelliant sylweddol yn safon lletyaeth y bloc Mathemateg;
• Gosod system sbrinclo yn yr adeilad newydd a'r adeilad a adnewyddwyd.
Cyllideb
Y gyllideb i'r prosiect yw £2.6 miliwn, a daeth yr arian gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Amserlen
Mehefin 2008 – dechrau ar y safle
Awst 2009 – cwblhau gwaith adeiladu
Medi 2009 – yr adeilad yn barod
Newyddion diweddaraf
Dechreuodd gwaith dydd Llun 30 Mehefin. Mae'r prif gontractwr Paveaways Construction Ltd wedi cwblhau Gwedd 1a o'r prosiect gan olygu creu dwy ystafell ddosbarth newydd i ddysgu Mathemateg. Mae'r gwaith o addasu'r safle o olew i nwy yn parhau a hefyd y gwaith cysylltiedig o osod system sbrincwr. Mae Gwedd 1b ar y gweill, mae'r seiliau wedi'u cwblhau ac mae'r dur ar y safle a bydd wedi'i gwblhau'n llawn erbyn diwedd mis Tachwedd.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 18/11/08


Rhoi adborth ar y tudalen hon