Crwydro Sir Ddinbych
Mae Adran Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi creu saith taith tref i gynnwys prif drefi Sir Ddinbych. Bydd pob taith yn cynnwys gwybodaeth am adeiladau diddorol, mannau unigryw a chwedlau lleol. Bwriadwyd y teithiau i ddenu mwy o bobl i deithio ychydig pellach i hanes y dref ac weithiau gall pobl leol hyd yn oed ddysgu rhywbeth neu ddau am yr ardal hefyd!
Er enghraifft wyddech chi fod pen cerflun Rhufeinig yn dyddio o 100AD wedi'i ganfod yng Nghorwen yn 1910 o dan safle presennol banc y HSBC?
Wyddech chi y bu gan Ruthun 60 o dafarndai unwaith?
Wyddech chi fod gan Brestatyn sawl darganfyddiad o'r oes Fesolithig (tua 4000 blwyddyn yn ôl )?
Wyddech chi y bu pwll y Grawys yn Ninbych unwaith yn bwll llawn pysgod i'r gymuned leol eu bwyta dros y Grawys?
Wyddech chi fod y gân 'Pack up your troubles in your old kitbag' wedi'i hysgrifennu yn 1914 gan ddau frawd o'r enw Powell o Lanelwy?
Wyddech chi y cynid tanau ar y bryniau o amgylch Llangollen yn ystod yr ail ryfel byd i achosi penbleth i'r Luftwaffe a'u hudo rhag bomio Lerpwl?
Wyddech chi bod gan Ruddlan unwaith ei ariandy ei hun lle gwneid ceiniogau adeg teyrnasiad William y Concwerwr (1066-87)?
I gael mwy o wybodaeth ddiddorol am Gorwen, Rhuthun, Prestatyn, Dinbych, Llanelwy, Llangollen a Rhuddlan darllenwch gopi o'r gyfres 'Darganfod / Exploring' o Ganolfan Gwybodaeth Twristiaid neu fannau gwybodaeth Twristiaeth neu e-bostiwch uchod neu cewch gopi ar ffurf PDF o'r linc yma.

Rhoi adborth ar y tudalen hon