Tîm Darllen
Amdani! Darllena!
Ar eich marciau – a pharatewch ar gyfer y sialens ddarllen yn eich llyfrgell eleni. Hoffech chi ennill medal fel sêr y Gemau Olympaidd? Os felly, ymunwch â sialens Tîm Darllen.
Dewch draw i’r llyfrgell i ymuno yn y sialens, yna dewch yn ôl tair gwaith eto, gan fenthyg o leiaf dau lyfr bob tro. Fe gewch chi becyn casglu arbennig Tîm Darllen a sticeri wrth i chi gwblhau’r sialens. Yna, wedi cwblhau fe gewch dystysgrif a medal arbennig.
Fe gewch fenthyg a darllen unrhyw lyfrau – beth am drio rhywbeth newydd?
Felly – amdani! – ar eich marciau, paratewch ac ewch i’r llyfrgell!


Rhoi adborth ar y tudalen hon