| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Awgrymiadau sut i gefnogi plant
Tîm Darllen

Awgrymiadau sut i gefnogi plant sy’n cymryd rhan yn Tîm Darllen
 

Mae sialens ddarllen yr haf yn rhoi cyfle gwych i blant gael hwyl gyda llyfrau ac i deimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo am ddarllen.
 
Nid cael plant i ddarllen cynifer o lyfrau ag y gallant yw’r nod – yn hytrach, annog plant i fwynhau yr hyn maen nhw’n ei ddarllen, dysgu rhagor am lyfrau, a gwybod sut i ddod o hyd i’r llyfrau sy’n apelio atyn nhw – ac, wrth gwrs, rhannu amser darllen gyda chi!
 
Mae yna sawl ffordd y gallwch gefnogi eich plant wrth iddyn nhw gymryd rhan yn sialens ddarllen yr haf: 

  • Siaradwch am lyfrau, a holi beth maen nhw wedi mwynhau ei ddarllen.
  • Chwiliwch am awduron newydd sy’n apelio atyn nhw. Gwnewch nodyn o’r enwau, a chwilio yn y llyfrgell am deitlau eraill gan yr un awduron. 
  • Gallwch ‘gwrdd’ â rhai hoff awduron llyfrau plant ar wefan y sialens ddarllen – www.teamread.co.uk – ac mae ’na weithgareddau hwyliog i roi cynnig arnyn nhw hefyd. 
  • Gwnewch amser i edrych o gwmpas y llyfrgell. Holwch am yr holl wahanol bethau y gall plant eu benthyca, a dysgu sut i ddod o hyd i lyfrau sy’n apelio atyn nhw. Mae croeso i chi ofyn i staff y llyfrgell am help.
  • Os yw eich plentyn yn awyddus i ddarllen rhyw deitl arbennig, gofynnwch i’r staff ei archebu i chi – bydd eich plentyn wrth ei fodd pan gaiff fynd i’r llyfrgell i’w gasglu.
  • Holwch am ddigwyddiadau hwyliog a gynhelir yn y llyfrgell yn ystod y gwyliau ysgol, a gwnewch y llyfrgell yn lle i ymweld ag o fel teulu.
  • Anogwch eich plant i ddarllen llyfrau gwybodaeth, neu i edrych drwyddynt, i ddysgu am bethau newydd.
  • Mae plant yn mwynhau trafod llyfrau gyda’u ffrindiau, ac awgrymu teitlau i’w gilydd.   
  • Oes yw eich plant yn ifanc iawn, darllenwch y llyfrau iddyn nhw. Tynnwch eu sylw at wahanol bethau yn y lluniau, a siarad amdanyn nhw. Pa rannau o’r llyfr maen nhw’n eu hoffi orau? Beth sy’n gwneud iddyn nhw chwerthin? 
  • Os yw eich plentyn yn dechrau darllen ar ei ben ei hun, cynigiwch rannu’r darllen (os nad yw’n awyddus i gadw’r llyfr iddo’i hun!) Byddwch yn amyneddgar ac yn anogol!

Beth bynnag yw oedran eich plentyn, mae yna adegau pan fo pawb yn mwynhau gwrando ar stori – a chael cyfle i drafod llyfrau. Erbyn diwedd y sialens ddarllen, rydym yn gobeithio y bydd eich plentyn wedi mwynhau’r holl weithgareddau yn y llyfrgell, ac wedi cael blas ar ystod o lyfrau newydd, gwych. 
 
Dyma oedd gan rieni plant a gymerodd ran yn sialens ddarllen yr haf y llynedd i’w ddweud: 
 
"Roedd y plant ar dân i ddarllen eu llyfrau a chael y sticeri! Maen nhw’n cael llawer o hwyl yn darllen ac yn dod i’r llyfrgell".    Rhiant plant 9 a 7 oed
 
"Mae fy mhlant wrth eu bodd gyda chynlluniau darllen yr haf yn y llyfrgell, ac wedi eu gwneud ers 3 neu 4 blynedd. Nid yn unig mae’n ffordd o wneud darllen yn hwyl, ond hefyd maen nhw’n mwynhau  llwyddo – ac ennill medalau!!!"     Rhiant plant 9 a 6 oed.
 
"Roedd Max wrth ei fodd yn gwrando ar stori amser gwely, a dewis ei ffefryn".
Rhiant plentyn 6 oed

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0