| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
07/16/2008 - Y Cyngor yn cryfhau’r bartneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru wedi arwyddo cytundeb swyddogol i barhau i weithio ar gadwraeth a phrosiectau rheolaeth coetir yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE).

Mae’r ddau sefydliad yn rhannu Warden ar gyfer Moel Famau a Llangwyfan, yn ogystal â Choed Nercwys ar ochr Sir Fflint i’r AHNE.  Mae Sharon Woods yn gweithio fel rhan o dîm yr AHNE sydd wedi ei leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads ac sy’n cwmpasu’r safleoedd hyn.

Mae Sir Ddinbych a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru’n rheoli Meol Famau ar y cyd drwy’r cytundeb hwn, yn cynnwys gwelliannau mynediad, dehongli a rheolaeth cadwraeth - sy’n cynnwys rheoli’r Rugiar Ddu.

Mae’r sefydliadau hefyd yn cyd-ddargludo rhaglen addysg yn Loggerheads a Moel Famau drwy ddau Swyddog Addysg y Comisiwn Coedwigaeth - Kate Poyner a Carolyn Williams.

Dywedodd David Shiel , Swyddog Cefn Gwlad - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: 'Mae gan Gymdeithas Genedlaethol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol goncordat gyda’r Comisiwn Coedwigaeth yn genedlaethol ac mae’r cytundeb hwn sydd newydd ei arwyddo yn dystiolaeth i’r berthynas waith agos sy’n bod rhwng y ddau sefydliad ym Mryniau Clwyd.
Meddai Rachel Chamberlain, Rheolwr Rhanbarth Coedwig Comisiwn Coedwigaeth Cymru, 'Un o’n hamcanion allweddol yw galluogi pobl i gael y fantais fwyaf o’u coetir lleol, a bydd y cytundeb hwn yn sicrhau fod y gwaith da a wnaethom o ran gwella mynediad, cadwraeth ac addysg yn parhau fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r coedydd sydd o’u cwmpas.  Mae ein partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych yn enghraifft ardderchog o gyrff cyhoeddus yn cydweithio er budd y cyhoedd.'

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0