| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
07/16/2008 - Hwyl yn yr Haul 2008

Sêr sebon, sêr pop a sêr sioeau talent y dyfodol yn ymweld â’r Rhyl ar ddydd Sul Awst 24 & Dydd Llun Gŵyl y Banc Awst 25 ar gyfer Hwyl yn yr Haul 2008 (12.00 ganol dydd - 5.00 pm)

Mae’r digwyddiad am ddim a drefnir gan Gyngor Sir Ddinbych gyda chefnogaeth Cyngor Tref Y Rhyl a Coast 96.3 yn digwydd yn Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl ac mae’n addo denu tyrfaoedd na welwyd eu bath o’r blaen.

Mae’r arlwy yn cynnwys sêr o’ch hoff operâu sebon, ynghyd â sêr pop a bandiau sydd ar frig y siart.

Same Difference – rownd derfynol X factor
Katherine Kelly - Becky Grainger 'Coronation Street Star'
Tom Lister - Carl King ( Emmerdale)
Natasha Hamilton ( Atomic Kitten gynt )
Pete Price ( Cyflwynydd Radio City Talk )
Hoop la la ( Britain's Got Talent )
Rusholme Ruffians ( Acoustic Smiths gyda Ben Hardman & Ben Thompson ( Mae Ben Thomson yn chwarae rhan Ryan Connor yn 'Coronation Street'
Sabrina (Cyn Aelod o Fand Merched Mis-teeq)
The Latch ( Band gyda chyn seren Steps Lee Latchford Evans )
James Stone ( Canwr lleol a seren Britain's Got Talent)
Shaky Shaun ( o’r X Factor)
Wig Wam Glam ( Band Teyrnged y 70au)
Laura Critchley (Cantores sydd ar daith ar hyn o bryd gyda Boyzone)
Billiam (Llwyddiant Siart Top 30 y DU)

Mae Grwpiau Cefnogi a Sêr y dyfodol yn cynnwys:
Kissing Freddie ( Band Merched Newydd )
Stonefoxx ( Band Merched )
Lauren Rose ( Cantores )
Michael Hinch ( Canwr)
Vogue ( Band Merched )
Scott 'G' ( Canwr Ifanc)
Cinderella Theory ( grŵp merched newydd gydag artist lleol Corrine Parry)
Fallen Angels (Deuawd Merched)

Yn ogystal â’r arlwy swmpus o artistiaid, mae’r digwyddiad yn cynnwys adloniant i blant, paentio wynebau, sgiliau syrcas a ffair.

Ynghyd â’r digwyddiad Hwyl yn yr Haul, bydd RNLI Y Rhyl yn cynnal eu Diwrnod Agored blynyddol ar ddydd Sul, Awst 24 ac ymysg y gwefrau fe fydd dychweliad Tîm Arddangos Parasiwt y Red Devils, Arddangosfa Awyren Spitfire yr Ail Ryfel Byd, Awyrennau Model a Hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru.

Nodyn i olygyddion: Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Uned Ddigwyddiadau (01824 712074)

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0