Mae Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych wedi croesawu’r newyddion fod y sefydliad wedi ei gydnabod yn genedlaethol am ymdrechion i leihau difrod troseddol yn y sir.
Fe enillodd y Bartneriaeth Wobr Cyfarwyddwyr a £1,000 i helpu tuag at waith diogelwch cymunedol yng Ngwobrau Ymarfer Arloesol y Swyddfa Gartref (Cymru), a gyhoeddwyd yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus.
Mae difrod troseddol yn cyfri am 25% o holl droseddau Sir Ddinbych. Rhoddodd ymchwil a dadansoddiad trylwyr hyder i’r Bartneriaeth i gyflawni lleihad parhaol drwy gyfres o fentrau a gynyddodd yr hyder yng ngwaith y bartneriaeth ac a daclodd ofn trosedd yn effeithiol.
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych wedi gweld llwyddiant digynsail yn lleihau nifer y troseddau yn y blynyddoedd diwethaf. Targed Sir Ddinbych dros y tair blynedd diwethaf oedd lleihau deg o gategorïau penodol o 20% - y lleihad mewn gwirionedd oedd 42%, sy’n gyfartal â bron i 2,700 yn llai o ddioddefwyr trosedd yn y sir.
Mae difrod troseddol wedi lleihau o 35%, troseddu’r ifanc wedi lleihau o 36% a throseddau’n berthynol i alcohol i lawr o 19%.
Mae’r mentrau’n cynnwys:
• Gosod giatiau ali mewn mannau arbennig
• Ymweliadau aml-asiantaeth ag eiddo trwyddedig
• Prynu prawf - gwrthod cyrchiad alcohol i bobl ifanc
• Parthau rheoledig o ran alcohol yn Y Rhyl, Prestatyn a Llangollen
• Glanhau amgylcheddol a chofnodi graffiti
• Cyflwyniad byrddau graffiti a pheth cefnogaeth artistig, i roi cyfle i bobl ifanc eu mynegi eu hunain yn artistig heb achosi difrod
• Gweithrediad GROG (Get rid of graffiti, Cael gwared â graffiti), menter sy’n seiliedig ar Crimestoppers
• Fe nodwyd mannau drwg o ran graffiti a’u paentio gyda murlun gan ddefnyddio artist lleol ac ‘artistiaid graffiti lleol’
Meddai Iwan Prys Jones , Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych: "Rydym yn hynod o falch o fod wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am yr ymdrech amlasiantaeth yn Sir Ddinbych i daclo difrod troseddol. Y berthynas waith gryf rhwng yr holl sefydliadau sy’n ymglymedig a’r cynlluniau arloesol i leihau trosedd ac ofn trosedd sy’n gyfrifol am y llwyddiant."
Meddai’r Uwch-arolygydd Terry Kellaher o’r tîm Awdurdod Canolog: Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o’r holl waith caled a ymgymerwyd gan y bartneriaeth. Rydym yn eithriadol o falch o dderbyn y wobr hon.
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych yn cynnwys cynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.


Rhoi adborth ar y tudalen hon