Mae Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych wedi cynnig ei longyfarchion a’i ddymuniadau gorau i brifysgol fwyaf newydd Cymru.
C Sefydliad Gogledd Ddwyrain Cymru yn Wrecsam ei henwi’n swyddogol yfory’n brifysgol (Gwener) yn dilyn derbyn statws prifysgol drwy gydsyniad brenhinol y Frenhines ac fe’i henwir yn Brifysgol Glyndŵr ar ôl yr arwr gorchfygol Cymreig a arweiniodd wrthryfel yn y bymthegfed ganrif.
Meddai’r Cynghorydd Bartley: "Rydym yn hynod falch fod NEWI wedi cyflawni statws prifysgol a chydnabyddiaeth swyddogol fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer addysg uwch yn rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae nifer o’r myfyrwyr sydd ar gyrsiau yno’n dod o Sir Ddinbych.
"Mae’r Cyngor yn falchach byth o’r enw a ddewiswyd, o ystyried cysylltiadau hanesyddol cryf Owain Glyndŵr â Chorwen, Rhuthun a Sir Ddinbych gyfan.
"Mae hwn yn ddiwrnod pwysig yn hanes NEWI ac rydym yn hynod falch o gynnig ein dymuniadau gorau i’r dyfodol i bawb ym Mhrifysgol Glyndŵr.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon