| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
07/24/2008 - Dydd Gwener yw Diwrnod Hwyl yn Nantclwyd y Dre

Mwynhewch dipyn o hwyl gwyliau’r Haf gyda rhaglen o ddigwyddiadau celfyddydol sy’n llawn gwybodaeth ar gyfer pob oed ac sydd wedi eu trefnu ar gyfer pob dydd Gwener drwy gydol mis Awst yn Nantclwyd y Dre, Rhuthun.

Mae’r hwyl yn cychwyn ar Awst 1 gyda 'Sbwriel yw Archeoleg!' o 11am-1pm a 2-4pm.

Mae’r digwyddiad am ddim ac mae’n cynnwys y cyfle i blant ddysgu beth yw archeoleg, darganfod sut y mae archeolegwyr yn defnyddio sbwriel o’r gorffennol i ddysgu am ein hynafiaid yn ogystal â’r cyfle i faeddu’ch dwylo a thyllu am ddarganfyddiadau yn ‘Sialens y Domen Rwbel’

Mae’r ‘Diwrnod Creadigol' ar Awst 8 gyda gweithdy i wneud masg 2-4pm (£2.50 y plentyn, yn cynnwys mynediad i’r tŷ) yna ymuno i helpu i greu’r collage ‘Rwy’n Caru Hanes’ ar gyfer Diwrnod Creadigol arall ar Awst 15 rhwng 2-4pm (£2.50 y plentyn, yn cynnwys mynediad i’r tŷ)
Mae 'Gwyllt am Natur!'  ar Awst 22 yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau sy’n edrych ar fywyd gwyllt rhyfeddol Rhuthun ac yn enwedig ar yr ystlumod sy’n byw yn stafelloedd yr atig yn Nantclwyd y Dre a rhoi cynnig ar wneud ei ystlum eich hun i fynd adref.
Digwyddiad awyr agored yw hwn gan fwyaf felly dylai’r rhai sy’n cymryd rhan wisgo esgidiau cryfion a dod â chôt rhag ofn!  Delfrydol ar gyfer oedran 6+, er bod croeso i bob oed.
Mae’r digwyddiad sy’n para mis yn diweddu gyda helfa drysor, dylunio a lliwio ar gyfer Diwrnod Creadigol arall ar Awst 29 rhwng 2-4pm (£2.50 y plentyn, yn cynnwys mynediad i’r tŷ.)

Does dim angen bwcio lle, dim ond troi i fyny ar y diwrnod.  Mae’n rhaid i blant dan wyth fod yng nghwmni oedolyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.nantclwydydre.co.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0