| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
07/24/2008 - Rhybudd trwyddedu tai yn dilyn achos dedfrydu

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhybuddio na fydd yn goddef landlordiaid yn gweithredu tai amlfeddiannaeth heb drwydded eiddo.

Mae’r rhybudd yn dilyn achos lle cafodd dau landlord eiddo ar Ffordd Brighton, Y Rhyl, Jacqueline Morrison o Brestatyn a John Wilson o Abergele,  ddirwy o £7,500 yr un gyda chostau o £1,465 wedi eu cael yn euog o’r drosedd, a oedd yn groes i Ddeddf Tai 2004.  Fe’u cafwyd yn euog yn ystod gwrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Dinbych ar Fehefin 17.
O Fehefin 30, 2006, pan ddaeth y Ddeddf Tai 2004 i rym, mae’n rhaid i dai amlfeddiannaeth sy’n cynnwys 3 neu fwy o loriau a chyda 5 neu fwy o bobl sy’n fwy nag un teulu ac sy’n rhannu unrhyw gyfleusterau, fod yn amodol ar ofynion trwyddedu gorfodol.  
Meddai’r Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adfywio: "Dyma’r diweddaraf o gyfres o erlyniadau diweddar a ddygwyd gan Sir Ddinbych.
“ Mae hyn yn anfon neges glir na fydd y Cyngor yn goddef landlordiaid sy’n osgoi cyfrifoldebau iechyd, diogelwch a lles eu tenantiaid.  Byddwn yn gweithredu i sicrhau fod y tenantiaid yn gallu byw mewn eiddo digonol, addas, yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a diogelwch tân.”

Dylai unrhyw landlord sy’n amau fod arno angen trwydded eiddo gysylltu â thîm Gorfodi Tai Sir Ddinbych, ar 01824 706389.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0