07/25/2008 - Datganiad yn ymateb i ddatganiad Jane Hutt ar Orffennaf 24 - Hyfrydle
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymateb i ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Jane Hutt ar Orffennaf 24 ynglŷn â chau Hyfrydle.
Meddai Ian Miller, y Prif Weithredwr: “Rydym braidd yn siomedig gyda datganiad y Gweinidog, yn dilyn y drafodaeth a gafodd gyda’r Arweinydd a’r cyfarwyddwr corfforaethol dros dro: dysgu gydol oes ar Orffennaf 23. Nid ymgynghorwyd â’r cyngor ar eiriad ei datganiad cyn ei gyhoeddi.”
Meddai’r Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans: “Fe weithiwn gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddod o hyd i ddefnydd dichonadwy, gwahanol ar gyfer yr adeilad fel y gwnaethom ar ddatblygiad gwreiddiol Hyfrydle fel darpariaeth breswyl 52 wythnos. Rydym wedi ystyried yn ofalus bob amser oblygiadau’r penderfyniad i gau ar y bobl ifanc sydd wedi eu lleoli yn Hyfrydle a’u teuluoedd. Rydym hefyd wedi bod yn ystyriol o’r canlyniadau i’r rhai a allai fod wedi eu lleoli yn yr wythnosau i ddod, a’u teuluoedd, ac i staff yr uned. Mae gwaith dwys yn cael ei wneud gan ein swyddogion ein hunain, a staff awdurdodau eraill, i ddod o hyd i leoliadau gwahanol da ar gyfer y bobl ifanc a effeithir. Rydym hefyd yn gwneud ein gorau i osgoi diswyddo’r staff sy’n ymglymedig.
“Fe nodir penderfyniad y Gweinidog i ofyn i ddau o arolygiaethau a Swyddfa Archwilio Cymru adolygu cau’r cyfleuster hwn. Edrychwn ymlaen at gael ein hymgynghori’n gywir ar yr amodau gorchwyl manwl ar gyfer yr astudiaeth.
“Roedd y cyngor wedi comisiynu adolygiad o’r prosiect yn barod o’i genhedliad 4 neu 5 mlynedd yn ôl, fel y gellir dysgu unrhyw wersi perthnasol ac y gellir cymryd unrhyw weithrediadau angenrheidiol. Mae angen i ni sicrhau nad yw gwaith yr arolygiaeth yn dyblygu adolygiad y cyngor ac nad yw’n dargyfeirio adnoddau’r cyngor a phartneriaethau eraill yn ddiangen oddi wrth waith hanfodol arall. Mae’n rhaid i amodau gorchwyl hefyd adlewyrchu ymglymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hun yn y prosiect a’u bod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gywir o’r ffeithiau - er enghraifft, mae’r cyngor yn gyfrifol am gynllunio gwasanaethau ar gyfer dau o bobl ifanc yn unig sy’n cael eu heffeithio gan gau Hyfrydle ond mae datganiad y Gweinidog yn awgrymu ein bod yn gyfrifol am gynllunio ar gyfer yr holl bobl ifanc a effeithir.
“Ni chyfeirir o gwbl yn natganiad y Gweinidog at rai o’r ffeithiau allweddol. Mae’r gwaith manwl a wnaethpwyd gan y cyngor yn dangos nad yw’r adnodd yn ddichonadwy’n awr ac ni ddisgwylir iddo fod yn ddichonadwy. Elfen sylweddol yn yr asesiad hwnnw yw bodolaeth darpariaeth a grëwyd gan y sector breifat yng Ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Dim ond dau o bobl ifanc sy’n byw yn Hyfrydle, a dim ond un ohonyn nhw sydd o Sir Ddinbych. Ar y sail hon, roedd y cyfleuster yn colli £500,000 y flwyddyn i’r cyngor. Hyd yn oed os byddai’r tri o bobl ifanc a nodwyd ar gyfer lleoliadau (eto dim ond un ohonyn nhw sydd o Sir Ddinbych) wedi eu cymryd, byddai’r golled i’r cyngor sir eto wedi bod yn £300,000. Byddai trigolion lleol ac eraill wedi bod yn amau llywodraethu corfforaethol y cyngor gyda chyfiawnhad gan ddweud ei fod yn “achos pryder” os na fyddai’r cyngor wedi gweithredu i atal y fath ddraeniad ariannol sylweddol ar ei adnoddau.
“Rydym yn siomedig fod y Gweinidog wedi ceisio cysylltu penderfyniad ar un cyfleuster â “materion ehangach a systematig” a llywodraeth gorfforaethol y cyngor. Mae gan sefydliadau mawr aml-swyddogaeth fel Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r cynghorau ystod eang o brosiectau, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu gweithredu’n foddhaol. Bydd y cyngor yn derbyn adroddiad ar ddydd Mawrth am y rhaglen cyfalaf o £38.9 miliwn ar gyfer 2007-08: mae hyn yn dangos y llu prosiectau sydd wedi eu rheoli’n llwyddiannus a’u cwblhau yn cynnwys ail gyfnod y datblygiad yn Ysgol Tir Morfa, yr ysgol arbennig yn Y Rhyl, ac ailddatblygu Ysgol Plas Brondyffryn.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon