| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
07/25/2008 - Cymru Gynnes yn dod â chynllun i Sir Ddinbych

Mae cynllun newydd i daclo problemau tlodi tanwydd yn dechrau mewn tair ardal yn Sir Ddinbych yr haf hwn.
Mae Cymru Gynnes – Cartrefi Cynnes ac Iach i Sir Ddinbych yn rhaglen bartneriaeth sy’n dod â chefnogaeth ac adnoddau ynghyd gan Gyngor Sir Ddinbych, y Grid Cenedlaethol ac npower.
Bydd teuluoedd sy’n byw yn Ne Ddwyrain a Gorllewin Y Rhyl a Chanol Dinbych yn cael ymweliad gan dîm Cymru Gynnes.
Meddai Phil Rider, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymru Gynnes: “Byddwn yn anfon llythyrau a gwybodaeth at bob cartref yn yr ardaloedd hyn yn esbonio beth yw bwriad Cymru Gynnes a pha fanteision sydd yna iddyn nhw.  Rydym yn chwilio am berchnogion eiddo a landlordiaid sy’n dymuno bod yn rhan o’r prosiect newydd cyffrous yma i wella effeithlonrwydd ynni a systemau gwresogi yn eu cartrefi.”
Fe fydd Cymru Gynnes yn gwneud adroddiad effeithlonrwydd ynni AM DDIM ac arolwg technegol AM DDIM i argymell y gwelliannau sydd eu hangen ar eich eiddo.  Fe fydd gan berchentywyr yr hawl i wiriad budd-dal am ddim a chyngor ynni am ddim.
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Chymru Gynnes wedi sicrhau arian i ddargludo’r rhaglen hwn; fe fydd llawer o deuluoedd â hawl i dderbyn mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim fel gwresogi ac inswleiddio newydd.  Yn ogystal bydd landlordiaid yn gallu derbyn grantiau tuag at systemau gwresogi newydd neu well ar gyfer eu tai.  
Meddai’r Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adfywio:  “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chymru Gynnes ac o allu rhoi cyfle gwirioneddol i’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn  wella eu cartrefi.  Mae hwn yn brosiect unigryw sy’n amcanu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.”
Os ydych chi’n arswydo wrth feddwl am y gaeaf, yr oerni a chost eich biliau tanwydd, neu os ydych chi, yn syml, yn awyddus i wella ac uwchraddio eich eiddo, yna cysylltwch â Chymru Gynnes ar 01978 667115 i weld sut y gallwn helpu.  I ddarganfod mwy am Gymru Gynnes, ewch i’n gwefan ar www.warmwales.org.uk
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0