| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
07/25/2008 - Canolfan Grefftau Rhuthun i agor

Ar Ddydd Llun, 28 o Orffennaf 2008, gwelir Canolfan Grefft newydd Rhuthun yn agor mewn adeilad newydd syfrdanol yng nghesail Moelydd Clwyd.

Y mae'r Ganolfan newydd, sydd oll ar y llawr isaf, wedi'i gosod o gwmpas cowrt ac y mae yna dair oriel, oriel werthu helaeth, bwyty, chwe gweithdy i artistiaid ac ystafell addysgol.

'Roedd y gyllideb i'r prosiect yn £4.4 miliwn gyda £3.15 miliwn yn dod o Grant Cyfalaf Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, un o'r grantiau mwyaf o'i fath yng Ngogledd Cymru. Cafwyd arian hefyd gan Lywodraeth y Cynulliad (Adran Economeg a Thrafnidiaeth) Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Rhuthun a Chadwyn Clwyd.

Dywedodd Dr Kath Davies, Pennaeth Ariannu'r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:'O dan arweiniad gofalus Phillip Hughes, mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi ennill yn haeddiannol, enw da am ardderchogrwydd mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae'r adeilad arloesol hwn, a ddyluniwyd gan y penseiri arobryn, Sergison Bates, ei hun yn enghraifft o'r crefftwaith gorau ac yn rhoi Ruthun yng nghanol celf cymhwysol cyfoes.

'Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn hapus iawn i fod wedi chwarae rôl flaenllaw yn y datblygiad hwn ac yn hyderus y bydd Canolfan Grefft Rhuthun yn darparu platfform addas i artistiaid adnabyddus i arddangos eu gwaith, yn ogystal â bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i wneuthurwyr newydd yng Nghymru.'

Canolfan Grefft Rhuthun

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0