| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
07/25/2008 - Darganfyddwch geoamrywiaeth gyda theithiau tywys ar hyd Lechwedd Prestatyn

Gwahoddir cerddwyr i ymuno â thaith dywys o chwe milltir i fforio geoamrywiaeth Graig Fawr, Llechwedd Prestatyn a’r ogof, a adnabyddir yn lleol fel yr Ogof Bysgod.

Fe fydd yna gyfle i ddarganfod sut y mae moroedd trofannol, oesoedd y rhew a mwynau gwerthfawr wedi ffurfio’r dirwedd o gwmpas.

Cynhelir y daith, sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu, ar Awst 4 a bydd yn cychwyn o Faes Parcio Graig Fawr, Prestatyn.  Mae lle’n gyfyngedig felly bwciwch le drwy ffonio 01352 810614.

Teithiau tywys eraill i ddarganfod rhyfeddodau Bryniau Clwyd a Sir Ddinbych yw taith 10 milltir ‘Eglwyseg Cynhanes’ gyda’i hanes hudolus, ei geoamrywiaeth a’r golygfeydd trawiadol, ac fe’i cynhelir ar Fedi 3, a thaith dywys 9 milltir ar geoamrywiaeth Moel Arthur a Phen y Cloddiau sydd i’w chynnal ar Fedi 5.

Am fanylion, ewch i Beth sy’n Digwydd ar wefan Cyngor Sir Ddinbych: www.sirddinbych.gov.uk, www.denbighshire.gov.uk neu daflen Cefn Gwlad Sir Ddinbych ‘Out & About 2008’ sydd ar gael mewn canolfannau croeso.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0