Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi datgan ei fod yn cymryd camau i leihau’r eiddo a ddefnyddir fel swyddfeydd.
Mae’r penderfyniad yn dilyn prydlesu swyddfeydd yn Ffordd Brighton, Y Rhyl y llynedd, sy’n awr yn lletya’r rhan fwyaf o staff gwasanaethau cymdeithasol a thai. O ganlyniad, mae gan y cyngor adeiladau swyddfeydd dros ben.
Yn ei gyfarfod ar Orffennaf 15, fe gymeradwyodd y Cabinet strategaeth ar gyfer rhesymoli’r llety craidd ar gyfer swyddfeydd drwy grynhoi swyddfeydd yn yr adeiladau sy’n cynnig y gwerth gorau am arian, gan gynhyrchu lle ar gyfer swyddfeydd sy’n addas ar gyfer y pwrpas mewn amgylchedd sy’n newid yn sydyn. Roedd y ffactorau a ystyriwyd yn cynnwys maint yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw a chostau rhedeg yn ogystal â gwerth datblygu posibl.
Fel rhan o’r strategaeth, y bwriad yw ail-leoli staff i ffwrdd oddi wrth safleoedd yn Henllan a Lôn Ganol yn Ninbych ac i ddatgan yr eiddo hynny’n rhai dros ben o ran gofynion eu portffolio cyfredol. Mae ymgynghori ar y gweill gyda gwasanaethau ar leoliad y dyfodol ar gyfer y gweithrediadau sy’n digwydd yn Henllan a Lôn Ganol ar hyn o bryd, ac fe ymgynghorir â staff.
Fel rhan o’r newidiadau, fe gymeradwyodd y Cabinet strategaeth ar gyfer ail-leoli gwasanaethau addysg yn Nhrem Clwyd, Rhuthun a datblygiad swyddfa addysg ddibynnol yn Y Rhyl. Bydd y newidiadau hyn yn dargludo ymrwymiad yn y cynllun gweithredu ar gyfer gwelliant gwasanaethau addysg, a disgwylir iddynt gael eu gweithredu yn haf 2009.
Nid yw penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud eto ar ddefnydd y ddau safle a fyddai’n cael eu gadael yn y dyfodol. Mae’r ddau safle wedi eu lleoli o fewn ffiniau datblygu ac nid ydynt yn amodol ar unrhyw ddynodiad penodol yn y cynllun datblygu unedol. Yr argymhelliad tebygol yw cael gwared ar gyfer datblygu er mwyn darparu derbyniadau cyfalaf i’w fuddsoddi mewn asedau hanfodol fel ffyrdd ac i foderneiddio ysgolion. Gallai unrhyw gynnig ar gyfer datblygu gynnwys elfennau i ddelio â strategaethau eraill y cyngor, fel darpariaeth tai gofal ychwanegol ar gyfer pobl oedrannus neu bobl gydag anabledd dysgu, a byddant yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl y trefniadau arferol ar gyfer ceisiadau cynllunio. Byddai’n rhaid i unrhyw gynnig am ddatblygiad tai gynnwys tai fforddiadwy yn unol â pholisïau cynllunio’r cyngor.
Yn ei sylwadau ar yr adolygiad, dywedodd y Cynghorydd Paul Marfleet, yr aelod arweiniol dros foderneiddio a gwella: "Mae’n rhaid i ni leihau’r lle a ddefnyddiwn ar gyfer swyddfeydd i gyd-fynd â gofynion y presennol a’r dyfodol ac i leihau costau gweithredu. Fel rhan o’n strategaeth effeithlonrwydd, rydym yn gweithredu proses a elwir yn WorkSMART ym mhob un o’n hadeiladau, gan ddechrau gyda Chaledfryn yn Ninbych yr haf nesaf. Bydd hyn yn sicrhau defnydd mwy effeithiol o ofod yn ein hadeiladau, yn cyflwyno gweithio mwy hyblyg ar gyfer y staff ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg.
"Bydd yn golygu y gellir lleoli mwy o staff mewn swyddfeydd fel Caledfryn: yn wir, mewn termau ehangach, fe all letya cymaint o staff ychwanegol ag sydd yna ar hyn o bryd yn Lôn Ganol. Fe asesir canlyniad cyffredinol y newidiadau mewn swyddfeydd ar economi’r dref ond fe ddylai fod yn bositif o ganlyniad i fwy o staff yn cael eu lleoli yng Nghaledfryn a manteision yn codi o ddefnydd gwahanol i safle Lôn Ganol. Fe fyddwn yn cyflwyno’r dull WorkSMART i adeiladau swyddfeydd eraill dros amser a gall hyn olygu y byddwn yn datgan mwy ohonyn nhw’n rhai sydd dros ben maes o law.
"Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet o’r strategaeth eang yn gynharach y mis hwn, byddaf yn cyflwyno adroddiad arall i’r Cabinet ym mis Medi i geisio penderfyniadau manwl ar y ffordd ymlaen.”


Rhoi adborth ar y tudalen hon