| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
07/28/2008 - Fandaliaid yn difetha amser sblasio’r haf

Mae fandaliaid wedi achosi difrod dros nos i’r chwyddgymal ym Mhwll Padlo Parc Drifft Y Rhyl.  Mae’r difrod wedi gadael twll sy’n fodfedd o drwch ar draws un rhan o’r llawr ac yr oedd yn rhaid cau’r pwll oherwydd ystyriaethau iechyd a diogelwch.

Meddai Ian Olson, Swyddog Cyfleusterau Arfordirol: "Ar y diwrnod a fydd o bosib yn ddiwrnod poetha’r flwyddyn, mae achubwyr yn gorfod troi cannoedd o deuluoedd i ffwrdd o’r cyfleuster.  Mae llawer o blant  wedi bod yn gofidio ac mae hyn wedi difetha eu diwrnod."

Mae atgyweiriadau brys ar y gweill ar hyn o bryd i drwsio’r difrod, ond mae lefel y pwll yn gorfod cael ei ostwng ac yna ei godi’n ôl, yn ogystal â sicrhau bod lefelau’r cemegau’n ddigonol cyn y gellir ail-agor  y cyfleuster.

Gobeithir y gellir ail-agor y cyfleuster yfory (Mawrth).

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0