| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
07/28/2008 - Galw evacuees Dyffryn Clwyd!

A fu derbynwyr lloches (evacuees) o Lerpwl yn aros hefo chi yn Nyffryn Clwyd yn ystod y 1940au?
Neu efallai mai chi fu'n derbyn lloches yn yr ardal?

I ddathlu statws Lerpwl fel Dinas Diwylliant Ewrop, mae gwasanaethau treftadaeth Sir Ddinbych yn trefnu arddangosfa o fywyd derbynwyr lloches yn Nyffryn Clwyd, fydd i'w weld yn Yr Hen Garchar, Rhuthun trwy gydol mis Awst.

Cynhelir te parti i'r derbynwyr lloches yn Nantclwyd y Dre ddydd Llun, 25 Awst am 4pm i gyd-daro â'r arddangosfa. Caiff llyfr o atgofion ei ysgrifennu a bydd yr awdur yn bresennol yn y te parti, i roi cyfle i bobl adrodd eu stori a'i gofnodi mewn print.


Os oes gennych unrhyw ddefnyddiau, llythyrau, lluniau neu eitemau o'r cyfnod, neu os hoffech ddid i'r te parti ffoniwch Kevin Matthias, Archifydd y Sir ar 01824 708251 neu e-bostiwch kevin.matthias@denbighshire.gov.uk

Neu fel arall galwch i mewn yn Nantclwyd y Dre (ar agor dydd Gwener - dydd Sul 10am -5pm) a gadewch eich manylion cyswllt a gwybodaeth yn fyr.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0