Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o ddatgan y daethpwyd o hyd i swyddi gwahanol ar gyfer 10 o staff o Hyfrydle hyd yma a hynny yn Ysgol Plas Brondyffryn ac uned breswyl yr ysgol, Gerddi Glasfryn yn Ninbych.
Fe effeithiodd y cau, a gyhoeddwyd ar Orffennaf 9, ar 24 o aelodau o’r staff, ac fe gynhaliwyd cyfweliadau yn ystod y dyddiau diwethaf ar gyfer deg o swyddi yn Ysgol Plas Brondyffryn a safle Gerddi Glasfryn sydd yn awr wedi eu llenwi. Mae pedwar aelod o’r staff wedi llwyddo i gael swyddi fel swyddogion gofal plant preswyl, dau fel staff nos ac fe dderbyniwyd pedwar arall fel cynorthwywyr cymorth dysgu.
Mae Sir Ddinbych yn parhau’n ymroddedig i gefnogi staff Hyfrydle sydd ar ôl a bydd yn parhau i wneud hynny ym mhob ffordd bosib hyd nes y dônt o hyd i waith arall gyda’r cyngor neu adael ein cyflogaeth am waith yn rhywle arall.
Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Ian Miller: “Fe barhawn i gefnogi’r holl staff o Hyfrydle i geisio eu cynorthwyo i ddod o hyd i gyflogaeth wahanol gyda’r cyngor.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon