| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
07/29/2008 - Ailagor Rheilffordd Llangollen i Gorwen - Cyfarfod cyhoeddus yng Nghorwen - Awst 11 2008

Mae Rheilffordd Llangollen yn bwriadu ymestyn y gwasanaethau trên i Gorwen, tua dwy filltir a hanner y tu hwnt i’w therfyn presennol yng Ngharrog.

Mae Cwmni Rheilffordd Llangollen wedi cadw ymgynghorwyr i helpu i baratoi cais am Orchymyn Deddf Cludiant a Gwaith i awdurdodi adeiladu a gweithrediad rhan newydd o reilffordd.  Fe baratowyd Asesiad Effaith Amgylcheddol a bydd yn ffurfio rhan o’r cais am y Gorchymyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cynhaliwyd rownd gyntaf o ymgynghoriad cyhoeddus, yn cynnwys cyfarfod cyhoeddus yng Nghorwen yng ngwanwyn a haf 2007.  O ganlyniad i’r ymgynghoriadau hynny roedd angen nifer o newidiadau i’r cynigion yn ardal Corwen.

Y newid mwyaf yw’r angen i symud rhan o hen arglawdd y cyn reilffordd i Ruthun ger Afon Dyfrdwy er mwyn darparu estyniad i’r gorlifdir ar gyfer effeithiau posibl ailagor y rheilffordd ar y gorlifdir presennol.

Mae’r newidiadau eraill yn rhai mân ac yn cynnwys newid y ffordd fynediad arfaethedig i waith trin carthffosiaeth Dŵr Cymru er mwyn caniatáu mynediad gan lorïau cymalog a darpariaeth mynediad i bysgotwyr i lan deheuol yr afon i’r dwyrain o Gorwen.  Fe ddarperir llwybr byr wrth ymyl y rheilffordd i’r dwyrain o Gorwen lle mae yna dystiolaeth fod yr hen drac yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr.

Fe gynhelir cyfarfod cyhoeddus ym Mhafiliwn Chwaraeon, Lôn Las, Corwen am 7:00 pm ar ddydd Llun Awst 11 2008.  Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, Rheilffordd Llangollen a’u hymgynghorwyr yn bresennol i esbonio’r newidiadau i’r cynigion.  Mae croeso i bawb ddod i’r cyfarfod.

Bydd copïau o’r cynlluniau cyfredol ac esboniad ar y newidiadau a wnaethpwyd i’r cynigion ers haf 2007 ar gael i’w harchwilio yn y llyfrgelloedd lleol yng Nghorwen a Llangollen o ddydd Llun Awst 4.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0