Roedd staff Cyngor Sir Ddinbych allan yn llu i helpu pobl mewn anhawster yn ystod y storm neithiwr (Llun)
Yn fuan ar ôl 10 p.m., achosodd glaw trwm lifogydd yn ardal Lenten Pool, Dinbych. Sicrhaodd ymateb cydlynol gan y Tîm Ymateb Brys fod yna dros 10 o swyddogion yn lleoliad y llifogydd, yn helpu’r Gwasanaeth Tân. Daeth dau gerbyd, un o Ruthun ac un o Ginmel, â bagiau tywod i Lenten Pool a galwyd ar ddau griw pellach i helpu.
Fe effeithiwyd ar bump o gartrefi ac ar y cychwyn roedd yn rhaid symud un teulu o’u cartref a’u lletya dros nos. Er y daethpwyd o hyd i lety brys mewn gwely a brecwast lleol, penderfynodd y teulu aros yn eu cartref.
Wrth i’r glaw trwm barhau, roedd y timau’n delio â digwyddiadau eraill a oedd yn gysylltiedig â’r llifogydd, er nad oeddynt yn ddifrifol, tan tua 1a.m.
Roedd glaw pellach yn cael ei ddarogan o 3 a.m. ac fe gadwyd dau griw ym mhob depo yn barod am weddill y noson, ond ni chafwyd mwy o broblemau.

Rhoi adborth ar y tudalen hon