| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
07/29/2008 - Y Cyngor yn pryderu am gynnydd yng nghostau tanwydd ac ynni

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi mynegi pryderon am gostau cynyddol tanwydd ac ynni ac mae wedi galw am weithredu gan lywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru.


Dywed y Cyngor fod ei gyllideb am 2007/09 yn cynnwys tybiaeth y byddai costau ynni a chludiant yn cynyddu o  £822k  neu  14%  ond bod rhagamcanion diweddaraf yn awgrymu y bydd costau’n cynyddu o £425k yn ychwanegol nad yw wedi ei gynnwys yn y gyllideb, a bod y codiadau hyn yn uwch o lawer na’r cynnydd o 2.3% yng ngrant cynnal refeniw a ddarperir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2008/09.


Cyflwynodd y Cynghorydd  Julian  Thompson-Hill,  Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid, Rybudd o Gynnig a gytunwyd gan y Cyngor y bore yma (Mawrth).  Meddai “Mae’r Cyngor yn galw ar lywodraeth y DU i weithredu’n bendant i ddiogelu buddiannau teuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a diwydiant drwy gyflwyno Rheolydd Toll Tanwydd a fydd yn defnyddio refeniw cynyddol TAW i ariannu lleihad yn lefelau toll tanwydd a byddai’n help i leihau costau i ddefnyddwyr.


“Rydym yn galw hefyd ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i greu elfen eglur o fewn setliadau llywodraeth leol y dyfodol i ddangos sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu codiadau mewn prisiau tanwydd ac ynni.”.


Bydd y Cyngor yn lobïo holl Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad Sir Ddinbych ar y mater hwn.


Nodyn i olygyddion:  Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebiadau Corfforaethol ar 01824 706222/ 706007/ 706125.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0