Mae Cyngor Sir Ddinbych i ofyn i breswylwyr am eu barn ar bedwar maes blaenoriaethol a nodwyd gan y Cyngor.
Yn dilyn ymchwil a thrafodaeth helaeth gyda staff a chynghorwyr, fe nodwyd y blaenoriaethau canlynol:
Blaenoriaeth 1: Moderneiddio Addysg. Fe fabwysiadodd y Cyngor y ffrwd gwaith hon fel blaenoriaeth yn dilyn cyhoeddi adroddiadau Estyn ac Addysg Caergrawnt mis Medi diwethaf. Mae Moderneiddio Addysg yn cwmpasu tair ffrwd gwaith: yr ymateb i’r ddau archwiliad gan Estyn yn canolbwyntio ar godi cyflawniadau disgyblion a gwella gwasanaethau cynnal ieuenctid a’r rhaglen i fwrw argymhellion adroddiad Addysg Caergrawnt ymlaen fel bod ysgolion y sir yn cyfarfod ag anghenion Cymru’r Unfed Ganrif ar Hugain.
Blaenoriaeth 2: Ymateb i newid demograffig. Mae angen i’r Cyngor sicrhau ei fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio, gan ganiatáu i bobl weithio a dysgu cyhyd ag y dymunant, ac i wneud cyfraniad actif unwaith y byddant wedi ymddeol. Bydd angen iddo gydnabod hefyd y bydd pobl yn byw’n hirach yn golygu y bydd angen cyrchiad i wasanaethau a chefnogaeth iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd ar fwy o bobl.
Blaenoriaeth 3: Adfywio: Mae adfywio ac adnewyddu’n golygu datblygu, neu ailddatblygu, pob agwedd ar amgylchedd Sir Ddinbych, o dai a rhwydweithiau cludiant i fusnes a swyddi, yn ogystal â chyfleusterau siopa ac adloniant.
Blaenoriaeth 4: Ffyrdd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Y sialens yw darparu adnoddau i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u hadolygu’n briodol dros amser.
Meddai’r Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans: 'Os ydym am wneud newid gwirioneddol, mae angen gwneud llai o bethau, ond eu gwneud yn dda. Blaenoriaethu yw’r ffordd y mae cynghorau’n penderfynu lle i ganolbwyntio eu hadnoddau prin, yn cynnwys amser ac ymdrech rheoli. Mae’r ‘gwaith dyddiol’ o gyfarfod â dyletswyddau statudol y cyngor yn parhau, ond mae blaenoriaethau cyngor yn pwyntio tuag at y meysydd allweddol y mae’r cyngor am eu newid.
'Fe fyddwn yn gwerthfawrogi mewnbwn preswylwyr Sir Ddinbych a byddwn yn annog unrhyw un sydd â barn i anfon eu sylwadau atom ni.”
Gall trigolion roi eu sylwadau ar y blaenoriaethau hyn o Awst 4 tan Fedi 12. Bydd copïau o’r blaenoriaethau ar gael ar y wefan
www.denbighshire.gov.uk neu drwy wneud cais am gopi caled gan yr Uned Polisi Strategol yn Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1YN,
Ffôn: 01824 706184. Dylid anfon sylwadau ymlaen at: Yr Uned Polisi Strategol, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1YN neu
e-bost: policyunit@denbighshire.gov.uk.


Rhoi adborth ar y tudalen hon